Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhwyment ei dafod, a gwnaent ef megis mudan. Ond fel yr oedd efe yn myfyrio ar y geiriau hyny, wrth farchogaeth i Lanllyfni, torodd y wawr ar ei feddwl, ffodd yr amheuon, darfu y dychryniadau, a daeth tafod y mudan i lefaru yn groew, 'Ein Tad,'" &c.

Arferion anfoesol ac annuwiol fyddai gan yr hen bobl, druain, gyda chladdu y marw. Ni ystyrient hwy ef yn beth ddim allan o'i le i berthynasau agosaf y marw foddi eu teimladau hiraethlon trwy yfed i ormodedd, a meddwi. Gwnelai yr oll a ddeuent i dalu y gymwynas olaf i'r trancedig yr un modd, a pheth cyffredin fyddai i'r offeiriad a ddarllenai y gwasanaeth claddu fod yn feddw. Parhaodd yr hyn a elwid shot gladdu yn hir, ond nid ydym yn gwybod pa bryd y terfynodd yr arferiad. "Ar amser claddedigaeth yn y plwyf (Ffestiniog), arferai y rhan fwyaf fyned a chwech neu swllt gyda hwy, er mwyn myned i'r Efail (tafarndy) i dalu y shotri. Rhoddai pawb fyddai yn bresenol chwech neu swllt i lawr, ac yna byddai y ddiod yn rhydd i bawb yfed ei oreu o honi. Yn 1792, rhoddai Harri Jones, Talybont, overseer y tlodion am y flwyddyn hono, fill i'r plwyf am swllt cwrw y shot yn nghladdedigaeth un Ellis Evans, ac yn nghladdedigaeth gwraig un Evan Jones."[1]

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Mari'r Fantell Wen
ar Wicipedia

Ni byddai y sylwadau arweiniol hyn yn gyflawn heb grybwylliad am heresi a gyfododd dros amser byr, yn y rhan hon. o Sir Feirionydd, ar derfyn y ganrif ddiweddaf. Cofus genym, pan yn dra ieuanc, glywed son mynych am ryw dylwyth hynod wedi bod unwaith yn cael sylw mawr yn Ffestiniog, a'r ardaloedd cylchynol, sef teulu "Mari y Fantell Wen." Ei hanes sydd debyg i hyn.—Daeth Mari Evans, "Mari y Fantell Wen," i'r wlad hon o Sir Fôn, oddeutu y flwyddyn 1780. Gelwid hi wrth yr enw hwn, am ei bod hi a'i chanlynwyr yn

  1. Hanes Plwyf Ffestiniog, G. J. W., tudal. 72.