Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/253

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Williams, F.G.S., ac E. H. Jonathan, yn parhau yn flaenoriaid gweithgar. Ac ar hyn o bryd, edrychir allan am weinidog mewn cysylltiad ag eglwys Gymraeg Bowydd.

SYLWADAU COFFADWRIAETHOL.

GRIFFITH GRIFFITHS.

Ymunodd â'r eglwys Saesneg, fel y crybwyllwyd, yn 1878, ac ymhen dwy flynedd neillduwyd ef yn flaenor. Bu ef a'i briod merch y diweddar Mr. W. Williams, Bont, Llanbrynmair-o wasanaeth mawr i'r achos, ac yn hynod am eu caredigrwydd i weinidogion y gair. Yr oedd ef yn un o'r gwyr ieuainc mwyaf meddylgar a fagodd Ffestiniog; yn gymeriad noble, disglaer, hawddgar, ac yn dra chrefyddol ei ysbryd. Colled fawr i'r eglwys oedd ei golli. Ymfudodd i Emporia, Kansas, ac anrhegwyd ef a'i briod ag anerchiad goreuredig gan yr eglwys. Ymhen naw mis ar ol ei fynediad i'r America, sef Chwefror 5ed, 1887, bu farw mewn tawelwch a hyder mawr, yn 30 mlwydd oed, gan ddymuno ar i'r geiriau "Gwyn eu byd y meirw y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd" gael eu rhoddi ar gareg ei fedd, ynghyd â'r llinell ganlynol:—

"After life's fitful fever, he sleeps well."

O. P. JONES.

Bu ef mewn cysylltiad â'r eglwys hon am 11 mlynedd; ystyrid ef fel tad yr eglwys, ac efe oedd ei blaenor cyntaf. Bu yn gwasanaethu y swydd dros dymor byr yn Nhalsarnau yn flaenorol. Ymgymerodd â'r swydd yn yr eglwys Saesneg o dan anfanteision mawrion, gan nad oedd ond Cymro uniaith. Ond yr oedd yn ŵr o rym meddwl anarferol, ac o ewyllys mor gref na fynai ei droi yn ol na'i orchfygu gan unrhyw anhawsder, ac felly daeth yn fuan yn alluog i gymeryd rhan yn yr holl wasanaeth. Yr oedd yn ŵr o syniadau eang, ystwythder ysbryd, a barn addfed. Yr oedd hefyd yn prysur ddringo i fyny i fod yn un o ddynion blaenaf ei ardal ymhob cylch.