Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/287

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fro, ac y cadwyd nid ychydig o ddywediadau yr hen bobl heb fyned i ebargofiant. Adnabyddir un o'r cyfryw ysgrifau wrth y teitl, "Modryb Lowri." Lowri Williams, o'r Benar Isaf, oedd y chwaer hon, fel y daeth yn hysbys wedi hyny, ac un hynod ydoedd am ei challineb a'i haddfedrwydd barn. Medrai gofio digwyddiadau a hanes ei gwlad enedigol mor bell yn ol, o leiaf, a'r flwyddyn 1750. Un diwrnod cymerodd yr ymddiddan canlynol le rhwng Mr. Humphreys a hithau:—

"Beth debygech chwi am y byd?" gofynai Mr. H., "y mae yn dda gen' i gael eich barn am dano, oblegid yr ydych yn cofio llawer am ei arferion er's pedwar ugain a deg o flynyddoedd. Y mae rhai yn taeru yn wyneb uchel ei fod yn waeth waeth er yr holl bregethu a chadw Ysgolion Sabbothol, a phob moddion i'w wellhau. Ond pa beth dybygech chwi am hyn, canys yr ydych yn dyst llygad o'r hyn sydd, ac o'r hyn a fu!" "Nis gwn yn iawn pa fodd i'ch ateb," ebe hithau, "ond os da yr wy'i yn cofio, drwg iawn oedd y byd y pryd hwnw, sef pan oeddwn i yn enethig fechan. Nosweithiau llawen, canu efo'r tanau,

Yr interlude aelodog,
A'r cardiau dau wynebog,'

y twmpath chware, a chware tenis tô. Fel hy y byddai yr ieuenctyd, a'r hen yn eistedd i edrych arnynt. Diwrnod canu a dawnsio oedd y Sul, pan gyntaf yr wyf fi yn ei gofio. Ac heblaw hyn, yr oedd pawb yr un fath, fel y dywed yr hen air, 'Nid oeddym oll ond moch o'r un wâl, neu

'Adar o'r un lliw
Yn hedeg i'r un lle.'

Nid oedd un cyfiawn i ragori ar ei gymydog."

"Ond, Modryb Lowri," ebe Mr. H. drachefn, "beth meddwch chwi am stâd bresenol y byd, pa un ai gwell ai gwaeth na chynt?"