Yr oedd Griffith Ellis, pa fodd bynag, yn y rhan hon o Sir Feirionydd, fel caniad y ceiliog yn dweyd fod y wawr ar dori. Y mae amryw grybwyllion yn cyfeirio at ei dŷ ef, sef y Tyddyndu, ac wedi hyny Pen'rallt, fel lle yr oedd eglwys wedi ei ffurfio, ac ychydig grefyddwyr yn ymgynull ar enw Crist, am lawer o flynyddoedd cyn bod yr un eglwys arall i'w chael yn y parthau hyn. "Yr oedd brawd a dwy chwaer yn arfer myned i wrando pregethu i Ben'rallt, gerllaw Harlech, sef i dŷ y Griffith Ellis y soniasom fwy nag unwaith am dano, ac wedi ymuno hefyd â'r gymdeithas eglwysig a ffurfiasid yno." Y personau cyntaf a ymunodd â chrefydd yn y Dyffryn oedd y brawd a'r ddwy chwaer hyn. Deuent yr holl ffordd o'r Dyffryn am mai yn Mhen'rallt eto y ceid yr unig gymdeithas eglwysig yn y cyffiniau. Wrth gymeryd i'r cyfrif amser tröedigaeth Griffith Ellis, ac nad oedd ond ieuanc ar y pryd, ynghyd a'r cyfeiriadau at ddechreuad yr achos mewn lleoedd eraill yn y cyffiniau, deuir i'r casgliad fod yr eglwys wedi ei ffurfio yn ei dŷ ef oddeutu y flwyddyn 1770, a hon oedd eglwys Harlech. Yr oedd yma bregethu achlysurol yn ddiameu cyn hyn. Oddeutu yr un adeg felly y dechreuwyd yma ag yn y Penrhyn, ond fe aeth y Penrhyn ymlaen yn fwy cyflym. Bedair blynedd ar ol hyn, sef yn 1774, yr ydym yn cael fod ysbryd erlidgar iawn yn meddianu preswylwyr Harlech, gan iddynt ymddwyn yn greulawn tuag at y fintai o grefyddwyr o Sir Gaernarfon a elai trwy y dref y flwyddyn hono, ar eu ffordd adref o Langeithio. "Tranoeth, ar ein taith tuag adref, fel yr oeddym yn dyfod trwy dref Harlech, cododd y trigolion fel un gŵr i'n hergydio â cherig, fel pe buasent yn tybio mai eu dyledswydd oedd ein llabyddio. Tarawsant rai yn eu penau nes oedd y gwaed yn llifo."[1] Cafodd un ergyd yn ei sawdl, fel y bu yn gloff am wythnosau. Yr oedd y Parch.
- ↑ Cyf. I., tudalen 40.