Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD III.

PANDY-Y-DDWYRYD.

CYNWYSIAD.—Darluniad o'r fro—Ei hanghenion ysbrydol— Symudiad Lowri Williams o Bandy-Chwilog i Bandy-y-Ddwyryd—Yn foddion troedigaeth Griffith Ellis, Pen'rallt—"Teulu Arch Noah"—Y cyniwair ir Pandy—Lowri Williams yn gweinyddu yr ordinhad—Erlid y crefyddwyr—Llythyr cyfreithiol—Marwolaeth Lowri Williams—Edward Roberts, Vicar Crawgallt.

"Dywedir i lafur un wraig o'r enw Lowri Williams, o Bandy-y-Ddwyryd, fod yn foddion i blanu deunaw o eglwysi yn y rhan hono o Sir Feirionydd, sef yn nghymydogaethan y Penrhyn, Maentwrog, Trawsfynydd, &c., y rhai a gynyddasant yn ei hoes hi, i fil o aelodau."—Methodistiaeth Cymru, I., 293.

 LE anghyfanedd ac anghysbell ydyw Pandy-y-Ddwyryd, a'i safle megis o'r naill du, rhwng Trawsfynydd a Maentwrog. Nid ydyw yn agos i un dramwyfa yn yr oes hon. I ddangos y fan mor eglur ag y gellir; pe yr elai y darllenydd oddeutu dwy filldir oddiwrth Orsaf Maentwrog Road, i gyfeiriad y mynydd rhyngddo â Dyffryn Ardudwy, fe ddeuai wrth odreu y mynydd i'r llecyn y saif Pandy-y-Ddwyryd arno. Nid oedd, saith ugain mlynedd yn ol, yn fwy neillduedig na thyddynod eraill yr ardaloedd hyn, ac nid oedd yn fwy anhawdd cyrchu ato na hwythau; ond yn awr ystyrir ef yn un o'r cilfachau mwyaf anghysbell yn yr amgylchoedd. Nid oes waith i'r panwr ynddo fel yn yr hen