Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dyddiau hi yn llygredig ac annuwiol. Rhoddwn hanes y cychwyniad yn llawn, fel yr ysgrifenwyd ef oddeutu y flwyddyn 1850:—

"1755. Tua'r amser yma yr ymddengys i ryw gychwyniad bychan gymeryd lle ar Fethodistiaeth yn yr ardaloedd rhwng Penrhyndeudraeth a Thrawsfynydd. Nid wyf yn cael fod un lle yn Sir Feirionydd ond y Bala, wedi achlesu y penau cryniaid yn foreuach na'r fro hon. A gwnaed hyny trwy offerynoldeb gwraig, o sefyllfa gyffredin, ond o ysbryd rhagorol, a duwioldeb nodedig. Yr oedd Methodistiaeth eisoes wedi dechreu ymwreiddio yn Sir Gaernarfon, tuag ardal Brynengan, nid ymhell o Bwllheli. Yn yr ardal hon yr oedd gwr o'r enw John Prichard, yn byw yn Pandy-chwilog, plwyf Llanarmon; yr hwn oedd wr moesol a diachwyn arno, ac i'r hwn yr oedd gwraig wir grefyddol, ac mewn undeb â'r Methodistiaid yn Mrynengan, o'r enw Laura, neu Lowri Williams. Ac er nad oedd John Prichard ei hun mewn undeb eglwysig, eto fe ymddengys ei fod yn arfer gwrando ar y Methodistiaid, ac ni fynai roddi hyny heibio. Y canlyniad fu, iddo orfod ymadael â Phandy-chwilog, oblegid nad ymddiosgai yn llwyr oddiwrthynt. Agorodd rhagluniaeth ddrws i John Prichard a'i wraig i fyned i Bandy-y-ddwyryd, yn mhlwyf Maentwrog, Sir Feirionydd. Yr oedd Lowri Williams, erbyn hyn, mewn lle anfanteisiol iawn i fwynhau y moddion a ystyrid mor werthfawr ganddi, ond yr oedd yn lle, er hyny, a roddai fantais iddi wneuthur llawer iawn o ddaioni. Nid oes hanes am neb o gyffelyb feddwl iddi o fewn llawer iawn o filldiroedd, ar law yn y byd. Yr oedd iddi tua 15 milldir i Frynengan, ar y naill law, a thua 18 milldir i'r Bala ar y llaw arall. Nid hawdd ydyw ffurfio dychymyg teilwng am deimladau meddwl y wraig hon dan y fath amgylchiadau. Llosgai ei henaid gan awydd i ordinhadau Duw, ond nid oeddynt i'w cael o fewn llawer o filldiroedd meithion; sychedig oedd ei hysbryd am gymundeb