Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

geisio gwneyd defnydd o hono i'r diben hwn; ac ni ollyngai yn angof, ychwaith, ddyrchafu ei hochenaid at Dduw am fendith ar yr ymddiddanion, i wneuthur lles i eneidiau dynion. Crybwyllasom fwy nag unwaith eisoes am enw un Griffith Ellis, Pen-yr-allt, gerllaw Harlech. Gŵr oedd hwn a fu o wasanaeth arbenig i achos yr efengyl yn ei fro, ac i'r wraig hon, fel moddion, yr oedd yn ddyledus am ei ddychweliad at Dduw. Ryw Sabbath, pan yn ieuanc, ac yn cyrchu, fel ieuenctyd y wlad yn gyffredinol, i ryw gyfarfod llygredig neu gilydd, fe ddaeth heibio Pandy-y-Ddwyryd, ar ei ffordd i'r ymgynulliad; ond gan fod afon yn croesi ei lwybr, ac yntau yn anadnabyddus o'r lle goreu i'w chroesi, troes i dŷ Lowri Williams i ofyn iddi ei gyfarwyddo at y sarn. Hithau, gyda phob parodrwydd, a aeth gydag ef i ddangos iddo y lle, ac wrth fyned a ofynodd iddo,—

"Wel, fy machgen i, a fyddi di ddim yn ymofyn y ffordd i'r bywyd ar y Sul?'

"Na fydda i," meddai yntau, nac yn gofalu am ddim o'r fath beth.' "Tyr'd yma y pryd a'r pryd,' ebe y wraig, 'fe fydd yma ŵr yn dangos y ffordd i'r nef.'

"Na ddeuaf fi yn wir,' ebai yntau;—ac i ffordd ag ef, yn fwy ei fryd am bleser y chwareu-gamp ynfyd, nag oedd ei ofal am ddim o'r pethau hyny. Ar yr un pryd, yr oedd y saeth wedi cyraedd ei gydwybod. Swniai y gofyniad, a fyddi di yn ymofyn am y ffordd i'r bywyd?' yn ei glustiau yn fynych, fynych, ac nid allai gael llwyr lonyddwch oddiwrtho. Parai ymofyniad yn ei fynwes pa ffordd a allai y ffordd i'r bywyd fod; a pha fywyd a allai hwn fod? Yr oedd gweddi Lowri Williams wedi pwyo yr hoel i'w arlais, ac ni pheidiodd ei waedu nes ei ladd trwy argyhoeddiadau. Taflwyd hedyn gwirionedd pwysig yn y modd yma i'w feddwl, a gwlychwyd yr hedyn hwnw â gweddiau y wraig dduwiol, nes iddo wreiddio