Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/418

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i bob cyfeiriad, fel defaid ar wasgar. Yn y flwyddyn 1818, symudodd Mr. Humphrey Evans o Danywenallt i fyw i Lanfair, a chafodd yr ysgol fantais fawr ar hyny. Adeiladodd y gŵr hwn dai yno, ac yn llofft un o honynt y cynhaliwyd hi nes yr adeiladwyd y capel presenol yn 1866. Dodrefnwyd y llofft â meinciau pwrpasol i gadw yr ysgol, ac yr oedd grisiau i fyned iddi oddiallan. Y pryd hwn trosglwyddwyd yr ysgol oddiar ysgwyddau cyfeillion y Gwynfryn, a daeth bellach i orphwys yn gwbl ar ysgwyddau pobl Llanfair eu hunain. Humphrey Evans, ynghyd ag Evan Thomas, Pen'rallt, blaenor ffyddlawn yn Harlech, fu y ddau mwyaf blaenllaw yn ei chynal. Cynhelid ambell bregeth a chyfarfod gweddi yn yr hen lofft hefyd. Yr oedd hwn yn gyfnod llewyrchus ar yr Ysgol Sabbothol yn Llanfair. Eraill a deilyngant gael cofrestru eu henwau a'u coffadwriaeth yn gysylltiedig â'r achos yn yr ardal ydynt,-Morris Griffith, Llwynhwleyn; Sion a Betty William, Ymwlch; Harri William, Talarocyn; Rhisiart William, Griffith Lewis. Griffith Jones, Bronygadair, oedd ŵr ieuanc gweithgar, ac a fu am dymor yn ysgrifenydd yr ysgol.

Bu Humphrey Evans yn nodedig o garedigol i achos crefydd yn yr ardal hon am dros ugain mlynedd. Ond rywbryd tua'r flwyddyn 1842, ymfudodd oddiyma i America. Merch iddo ef a gymerodd y Parch. Robert Ellis, Ysgoldy, Arfon, iddo ei hun yn wraig. Fel hyn y rhydd y gŵr parchedig ei hun yr hanes: "Ar y 23ain dydd o Fawrth, 1842, ymunais mewn priodas â Jane Evans, merch Mr. Humphrey Evans, Caerffynon, ger Harlech. Yr oedd hi eisoes er yn lodes wedi arfer â siop. Dyma oedd ei helfen. Profodd yn wraig ac yn fam deilwng o'r enw. Gwnaeth bobpeth a allai yn fy ffordd fel pregethwr. Gweithiai yn galed yn y siop er mwyn fy arbed. Hwyliai fi bob amser yn siriol i'm cyhoeddiadau. Gwnai bobpeth mor bleasant ag y gallai i'm derbyn adref yn