meddyliwyd yn uniongyrchol am adeiladu capel. Prynwyd tir gan Mr. John Owen, Tymawr. Talwyd am dano 24p. 5s. Nid oedd y Cyfarfod Misol a'r brodyr yn y lle yn cydweled ar y ffurf i'w roddi ar y capel. Anogai y Cyfarfod Misol roddi meinciau ynddo yn lle eisteddleoedd; teimlai cyfeillion y lle yn gryf dros gael eisteddleoedd, a'r olaf aeth a'r maen i'r wal. Yn y cyfnod rhwng y symudiad o'r hen lofft i'r capel newydd, buwyd yn cynal y moddion yn Ysgubor Llanfair Uchaf, trwy garedigrwydd Mr. a Mrs. Pugh, y rhai y pryd hyny a breswylient yno. Blwyddyn fuwyd yn pregethu yn y capel cyn ffurfio eglwys yn rheolaidd ynddo. Yn Nghyfarfod Misol Siloam, Ebrill 1868, "Penodwyd y Parch. Edward Morgan, a Mr. Owen Owen, Glyn, i fyned i Lanfair, ger Harlech, gyda golwg ar sefydliad yr achos yn y lle hwnw yn eglwys ar ei phen ei hun." Oddeutu 120 oedd nifer eglwys Harlech cyn yr ymraniad. Ymadawodd deugain i Lanfair, a rhoddwyd iddynt un ran o dair o Drysorfa y fam-eglwys i fyned gyda hwy i ddechreu byw. Yn yr ystadegau cyntaf y ceir cyfrifon eglwys Llanfair ynddynt, sef am y flwyddyn 1868, ei sefyllfa ydyw,-mewn cymundeb, 40; Ysgol Sul, 120; gwrandawyr, 187; blaenoriaid 2; casgliad y weinidogaeth, 20p. 10s. 71c.; dyled y capel, 240p.-casglwyd at y ddyled y flwyddyn hono, 14p. 12s. 5c. Traul adeiladu y capel felly oedd oddeutu 250p. Bu yr eglwys wrthi yn ddiwyd a chyson yn talu y ddyled. Nid oedd ar ddiwedd 1888 ond 20p. yn aros. Yr oedd dau o flaenoriaid Harlech yn byw yn Llanfair, sef Owen Roberts ac Ellis Lloyd, a bu pwysau yr achos yn ei bethau allanol ac ysbrydol, ar eu hysgwyddau hwy am y blynyddoedd cyntaf. Ond bob yn dipyn, magwyd yn yr eglwys weithwyr da gyda'r holl waith.
Yn y flwyddyn 1871, rhoddodd yr eglwys hon a Harlech alwad i'r Parch. Richard Evans yn weinidog iddynt, yr hwn sydd wedi eu gwasanaethu yn gyson hyd yn bresenol. Blaen-