Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/433

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wyr ynddi. Yr oedd y Parch. E. Morgan hefyd yn bresenol yn hon. Dywedir mai hi oedd y Gymanfa oreu a fu erioed yn y cylch, ac un rheswm a roddir dros hyny ydyw fod Mr. Morgan, yn ol ei arfer, yn gweithio yn egnïol o'i phlaid, ac yn dra awyddus am iddi droi allan yn llwyddiant. Cynhelid hi yn flynyddol wedi hyny, ond nid heb fylchau, a theimlai ei chefnogwyr na bu mor llwyddianus ag y dylasai fod. Y mae yn awr, pa fodd bynag, raddau helaeth o adfywiad arni. Ymunodd y cylch hwn â phob rhan arall o Sir Feirionydd a Chymru oll, mewn cadw Gwyl Canmlwyddiant yr Ysgol Sabbothol, yn mis Mehefin, 1885. Cadwyd yr Wyl yn Abermaw; cafwyd trên rhad ar linell y Cambrian i gludo deiliaid yr Ysgol Sul o Dalsarnau a'r cymydogaethau, fel yr oedd tyrfa fawr wedi ymgynull ynghyd ar yr amgylchiad. Cynhaliwyd dau gyfarfod cyhoeddus, un am ddau o'r gloch, yr hwn a lywyddid gan Mr. Williams, Ysgol y Bwrdd, Dyffryn; a'r llall am bump o'r gloch, ac a lywyddid gan y Parch. E. J. Evans, y pryd hwnw o Lanbedr. Yr oedd materion wedi en tynu allan yn flaenorol i draethu arnynt, a chymerwyd rhan yn ngweithrediadau y dydd gan y gweinidogion oeddynt y flwyddyn hono yn preswylio yn y Dosbarth, sef y Parchn. D. Davies (yn hynod o hwyliog); R. Evans, Harlech; E. J. Evans, Llanbedr; W. Thomas, Dyffryn; R. H. Morgan, M.A., Abermaw; Elias Jones, Talsarnau; a W. Lloyd Griffith, Llanbedr. Rhoddodd Mr. Rees Roberts, Harlech, hanes dyddorol am ysgolion y cylch o'r dechreuad hyd y flwyddyn hono. Canwyd anthemau pwrpasol i'r amgylchiad gan gorau o'r gwahanol ysgolion. Yr oedd yn Wyl ardderchog, a'r olygfa yn un i'w chofio. Ni bu y fath arddangosiad o nerth yr Ysgol Sabbothol o fewn y Dosbarth na chynt nac wed'yn. Cyfrifid fod nifer y bobl a'r plant yn yr orymdaith yn Abermaw y diwrnod hwnw o leiaf yn 1000.