Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/441

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gethu i'w tai a aent i geisio pregethwyr i unrhyw fan y gallent eu cael, a hwy fyddai yn cynal cyfarfodydd eglwysig yn eu tai. Gwelir oddiwrth y dyfyniad canlynol, o waith y Parch. J. Hughes, Liverpool, y modd a'r pryd y dechreuwyd cael pethau i drefn gyda hyn: "Ymhen rhyw gymaint o amser, dywedodd Mr. Charles mewn Cyfarfod Misol, fod y Testament Newydd yn datgan fod gan yr eglwysi lais i fod yn newisiad eu swyddogion, a bod cymwysderau y cyfryw swyddogion wedi eu gosod i lawr; mai nid swyddogion priodol oedd neb ond a ddewisid; nid y rhai a ddamweiniai fod, neu y rhai a ymwthiai iddi, oedd i fod yn henuriaid, ond y sawl a ddewisid, ac a elwid iddi, ac a osodid ynddi oddiar olwg ar eu bod yn blaenori yn y cymwysderau gofynol. Hyd yn hyn, yr oedd rhai dynion wedi eu harwain at y gwaith oherwydd angenrheidrwydd, ac wedi ymaflyd yn y gorchwyl am nad oedd neb arall a wnai, neu am nad oedd neb arall i wneyd. Yr oedd llawer o'r gwyr hyn yn ddynion rhagorol eu hysbryd, ac egniol eu diwydrwydd, mawr eu sel, a mawr eu ffyddlondeb; ond oherwydd eu galw trwy ras Duw o wasanaeth y diafol, pan. mewn oedran, ac heb erioed gael nemawr fanteision, yr oedd eu dawn a'u gwybodaeth yn fychan, ie, yr oedd rhai o honynt heb fedru darllen, ac felly dan anfantais fawr i allu cynyddu mewn gwybodaeth, i gyfateb i gynydd rhai eraill. Yr oeddynt, er hyny, yn effro a ffyddlawn iawn i wneuthur a allent, trwy fyned i'r cyrddau misol i ymofyn am bregethwyr i ddyfod i'w hardaloedd, ac ymhob modd yn ddyfal a gofalus yn ceisio hyrwyddo achos Duw ymlaen. Yn y Cyfarfod Misol y cyfeiriwn ato, penderfynwyd, yn ol cynygiad Mr. Charles, fod wlad i gael ei rhanu yn ddosbarthiadau; a bod i bregethwr gael ei anfon i bob un, i gynorthwyo yr eglwysi yn newisiad y swyddogion hyn. Angenrhaid oedd gwneuthur hyn, gan leied o sylw a wnaethai y cynulliadau eglwysig bychain ac ieuainc eto, ar gymwysderau henuriaid, neu ddiaconiaid. Yr