Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/473

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn y rhan Orllewinol, ac am y deuddeng mlynedd olaf o'i oes, gwasanaethai yr eglwysi a'r achos yn gyffredinol, gan ei fod wedi cwbl ymryddhau oddiwrth bob gofalon eraill. Y tymor hwn, a phob amser ar ei oes, safai ymhlith y rhai blaenaf gyda. phob gwaith cyhoeddus-efe fyddai yr ymadroddwr penaf yn. wastad lle bynag y byddai. Gwnaethpwyd rhai nodiadau am dano mewn cysylltiad â'r Abermaw, a dywedwyd ddarfod i'w weinidogaeth ar rai adegau o'i fywyd fod yn danbaid iawn, ac: iddo fod yn foddion i droi llawer o bechaduriaid i gyfiawnder.. Parhaodd y tanbeidrwydd a'r gwresogrwydd hwnw ynddo hyd ddiwedd ei ddyddiau. Cariai wres gydag ef i dymheru yr hinsawdd, boed hi mor oer ag y byddo. Teimlodd ei hun hefyd, megis y crybwyllwyd, yn berffaith yn ei elfen, byth wedi ymryddhau oddiwrth ofalon bydol yn Mhenmachno.. Pregethu yr efengyl, darllen llyfrau newyddion, a gwasanaethu yr eglwysi, fyddai ei hoff waith. Byddai ef yn rhan o'r Cyfarfod Misol mor hanfodol ag ydyw y coed yn rhan o'r capel. Dacw ef i'w weled ymhob un o honynt. Eistedda yn nghongl y sêt fawr, ac ni feddylia neb am i'r un drafodaeth gael ei chario ymlaen heb iddo ef siarad. Dacw ef yn codi i fyny, ac yn hwbian ymlaen a'i ffon, byth wedi ei gloffni trwy y ddamwain a gafodd, ac ar ol y frawddeg gyntaf, rhydd nôd sydyn ymlaen i'w ben. Mae ei lais fel cloch, ar darawiad, yn cyraedd cwr pellaf y cynulliad, ac mae pawb ar y gair cyntaf yn deffro. Pawb yn gwrando bellach â'u clustiau a'u geneuau, ac y mae ffrwd o ddawn yn dylifo allan fel yr afon ar li, ac nid oes neb. a wyr ymha le y terfyna y siaradwr. O un peth y mae sicrwydd, y bydd y cyfarfod wedi cael ysgydwad drwyddo cyn Fel John Jones, Tremadog, mewn y gorphena ei araith. ymadroddi y rhagorai ef yn fwy na dim arall. Nid ydys, ar un cyfrif, i dybio ei fod yn ddiallu; yn hytrach, yr oedd ganddo feddwl treiddgar, gafaelgar, a dychymyg cryf a bywiog. "Mi fedraf fi," ebai wrth y Parch. R. H. Morgan, M.A.,