Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/475

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Arosai yn y cyfarfodydd trwy y dydd dranoeth, ac, fel rheol, efe fyddai un o'r ddau i bregethu y nos olaf, a byddai yn wrandawr astud, a chyda'i amen, rhoddai lawer o gynorthwy, oddigerth y byddai wedi cymeryd rhyw syniad yn erbyn y pregethwr. Ar ddau amgylchiad neillduol yn nghynadleddau y Cyfarfodydd Misol, deuai ei ragoriaeth i'r golwg tuhwnt i bawb, sef wrth ymddiddan â'r blaenoriaid, ac yn y cyfarfod eglwysig cyhoeddus boreu yr ail ddydd. Ni bu neb yn y sir, yr oes hon beth bynag, yn debyg iddo yn myned trwy y gwasanaeth hwn. Yr oedd yn ddiguro am ei sylwadau parod a phwrpasol ar y cyfryw achlysuron. Wele rai engreifftiau o honynt. Mewn Cyfarfod Misol yn Aberllefeni, gwrandawai ar yr hen bererin Rowland Evans yn adrodd ei brofiad, a gofynai, "Sut mae'r achos yma?" "Wel, 'does yma ddim byd neillduol i'w ddweyd am dano," oedd yr ateb; "mae pob peth yn myn'd ymlaen yn eithaf tawel yma!" "O, yr ydych yn cytuno a'ch gilydd, ynte?" meddai Mr. Davies. "Ydym," atebai R. E., "ond y mae arna' i ofn ein bod ni yn cytuno i gysgu." A dangosai yr hen flaenor ei fod yn ambeus ac ofnus am ei fater tragwyddol. "Wel," meddai Mr. Davies drachefn, "pur anniben ydyw yr hen Fethodistiaid yma yn gwneyd sum bywyd tragwyddol. Mae rhai yn ei gorphen hi mewn mynyd, a dyna'r pryder i gyd trosodd; ond am yr hen Fethodistiaid, rhyw ffigiwr yrwan a ffigiwr yn y man y mae nhw yn ei roi; ond yn y diwedd, mae nhw yn bur siwr o gael y total yn iawn—bywyd tragwyddol."

Yn yr un gymydogaeth, yr oedd nifer y capelau wedi amlhau, a'r boblogaeth wedi cynyddu, yr hyn a alwai am wneuthur cyfnewidiad yn y Teithiau Sabbothol, a dygwyd y mater gerbron y Cyfarfod Misol, i geisio ei benderfynu. Ond methu dyfod i gydwelediad yr oeddis, er dwyn cynygion lawer ymlaen, gan fod rhwystrau yn cyfodi o'r fan yma, a rhwystrau o'r fan draw. O'r diwedd cyfodai Mr. Davies i