Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/485

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cyfarfodydd Misol yn mhen Gorllewinol Sir Feirionydd, yn lle y Parch. Daniel Evans, Penrhyn, yr hwn, oblegid ei lesgedd a'i fynych wendid, sydd wedi rhoddi i fyny y swydd; ac mai tâl y dywededig John Williams am y cyfryw lafur fydd pedair punt yn y flwyddyn, ynghyd a'r offeri a fo'n eisiau arno tuag at gyflawni y gwaith, megis papyr, llyfrau, &c., a bod iddo gael ei gynhaliaeth a'i lety yn y Cyfarfodydd Misol, fel rhyw swyddog eglwysig arall." Ysgrifenydd deallus a manwl oedd y Parch. John Williams. Cymerodd lawer o drafferth, am yr wyth mlynedd y bu yn y swydd, i gasglu swm mawr o fanylion am yr achos yn amgylchiadol, a'u dodi yn y cof-lyfr; ac nid yw yn ormod dweyd mai efe oedd y goreu a fu yn y swydd o'r dechreu. Er cael syniad o'i fanylwch, yn gystal a chipolwg ar y gweithrediadau yn ei amser ef, rhoddir i mewn yn y tudalen dilynol daflen o'i waith. Anfonwyd hi ganddo ar y pryd i'r Parch. Roger Edwards; ac wedi dyfod o hyd iddi ymhlith papyrau y gweinidog parchedig o'r Wyddgrug, trwy hynawsedd y Proffeswr Ellis Edwards, M.A., Bala, anfonwyd hi i wneuthur defnydd o honi ynglyn â'r hanes hwn:—