Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/514

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ond tra yr oedd ysgrifenydd medrus yn parotoi llyfr yn erbyn hyn, aeth engineer i geisio gwneyd y peiriant; a phan oedd y llyfr yn cael ei gyhoeddi i brofi anmhosibilrwydd y peth, yr oedd agerlong fechan yn paddlo ar y Clyde, er gwaethaf logic y llyfr. Ysgrifened y neb a fyno yn erbyn bugeiliaeth, y mae hi yn paddlo yn ei blaen yn Meirionydd, tra y mae y bobl ddysgedig yn ysgrifenu i brofi nad oes modd iddi weithio. Os mynech ei deall, rhoddwch brawf arni; a phrawf, cofiwch, ar y gwir beth, ac nid ar rywbeth a gamenwir yn fugeiliaeth."

Traddodwyd yr anerchiad ar ddechreu gweithrediadau y Gymdeithasfa, y peth cyntaf ar ol derbyn y cenadwriaethau o'r siroedd, a gadawodd argraff ddofn ar feddwl pawb a'i gwrandawai, a phenderfynwyd yn Nghyfeisteddfod y Blaenor- iaid dranoeth, yr hyn a gymeradwywyd drachefn gan yr holl frawdoliaeth, fod iddo gael ei argraffu gyda chylch-lythyrau y Gymdeithasfa. Yn yr adroddiad am y cyfarfod hwn dywedir, "Derbyniwyd araeth Mr. Morgan gyda brwdfrydedd. anghyffredin, a thraddodwyd hi gyda nerth mawr iawn."

Ymhen tair blynedd a haner ar ol traddodiad yr anerchiad uchod, yr oedd y Parch. Griffith Williams, Talsarnau, yn rhoddi hanes yr achos yn y sir, yn Nghymdeithasfa Penrhyndeudraeth, yr hon a gynhaliwyd Tachwedd 4, 5, 6, 1873. Cyfeiria rhan o'i adroddiad yntau at yr un mater. "Nid ydwyf am ddweyd llawer ynghylch y fugeiliaeth," meddai, "gan mai dyna ydoedd. baich yr anerchiad a draddodwyd dair blynedd yn ol. Ond gallaf ddweyd fod y fugeiliaeth o'r pryd hwnw hyd yn awr yn parhau i fyned ymlaen. Fe deimlir gan fwyafrif eglwysi ein sir fod hyn yn un o'r pethau anhebgorol i lwyddiant a pharhad yr achos yn ein plith. Edrychir ar y sir, a gelwir hi gan rai yn wlad y bugeiliaid. Ac fe ellid meddwl fod rhyw briodoldeb yn yr enw, gan mai i'r gorlan hon y maent yn edrych pan y maent mewn angen am fugeiliaid. Fe fydd rhywrai yn siarad am lwyddiant y fugeiliaeth yn ein sir fel pe bai yma rywbeth