Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn awr wedi cael gras, credent y gwnelai lawer o ddrwg i achos y diafol o hyny allan. Am hyny, rhoddasant iddo dderbyniad llawen. Ychydig yn flaenorol i'w ddychweliad at grefydd, sef yn y flwyddyn 1767, yr oedd wedi canu cân o wawd ar y Methodistiaid, ac o ganmoliaeth i Eglwys y plwyf. Teitl y gân oedd, "FFLANGELL YSGORPIONOG I'R HERESIAID— gelynion i'r gwirionedd, a alwant eu hunain y METHODISTIAID, ond a elwir yn gyffredin, Penau-Cryniaid, Cariadocs," &c. Darlunia hwy yn y gân hon yn debyg i hyn:—

"Ffeils hudolwyr, treiswyr trawsion
Gwaeth o ryw—y gau athrawon;
Hyll ormeisiaid,—afraid efrau,
O bwdr alwad, yn budr elwa.
Gan dwyllo brodyr mewn dull bradus,

*****

—————————tynu'n anffortunus,
A'u hwylio i ganlyn Howel Harries."

Eto, mewn cân arall,—

"Ymlusgant i deiau, mal deillion i dyllau,
Gan hudo merchedau â'u geiriau, heb eu gwyr,
Ac yno bydd lleisio, gwaedd annuw gweddio,
Ysboncio neidio———————————

Yr engreifftiau hyn a roddant syniad i'r darllenydd y fath un oedd y crefyddwr newydd,—a'r fath a fuasai ei gymeriad a'i arferion blaenorol. Dywedir iddo fod cyn ei ddychweliad mewn cyngrair â'r offeiriad i ymosod ar y crefyddwyr, i'w difrio, a'u gwawdio, a hawdd y gallasai un o'i dalent a'i dueddiadau ef wneuthur llawer o ddrwg iddynt. Pan welwyd ei fod wedi bwrw ei goelbren ymysg y rhai y buasai unwaith yn eu gwawdio, syrthiodd syndod ar bawb, ei hen gyfeillion yn gystal a'r rhai yr ymunasai â hwynt. Yr oedd y syndod yn fwy yn gymaint nad oedd yn wybyddus pa fodd y cymerasai ei dröedigaeth le. Erys tywyllwch hyd yn awr ar y modd y digwyddodd hyn. Er hyny, cafwyd digon o brawf iddo gael