Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/541

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y Gymdeithasfa am y flwyddyn; a chan Mri. H. B. Price, U.H., Porthaethwy, ac E. Griffith, U.H., Springfield. Darllenwyd papyrau, traddodwyd anerchiadau, a chymerwyd rhan yn ngweithrediadau y Gynhadledd gan amryw o weinidogion a diaconiaid.

Y mae cynydd mawr wedi bod yn yr holl eglwysi, oddigerth ychydig o'r rhai lleiaf yn yr ardaloedd gwledig, lle mae y boblogaeth wedi lleihau. Cymerodd y cynydd cyflymaf le yn ystod y deugain mlynedd diweddaf. Dangoswyd y cynydd mewn rhan eisoes yn Ffestiniog, ac yn eglwysi rhwng y Ddwy Afon. Rhoddir isod ychydig o dafleni yn ychwanegol, er dangos y cynydd yn yr holl gylch, gan gymeryd y cyfrifon yn 1849, y waith gyntaf y cyhoeddwyd hwy, i'w cymharu â'r rhai diweddaf a gasglwyd yn 1889.