Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/548

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dylid cofio fod canghenau wedi myned allan o amryw o'r eglwysi uchod, ar ol gwneuthur y cyfrif yn 1849, megis o Gorris, Aberdyfi, Towyn, Salem, Abergeirw, Penrhyn, Ffestiniog. Oni bai hyny, buasai rhai o honynt yn llawer lliosocach yn awr. Cymerwyd y prif golofnau yn unig i'w cymharu â'u gilydd, a gwelir fod cynydd dirfawr ynddynt oll, yn arbenig colofnau y casgliadau. Cyfartaledd casgliad y weinidogaeth ar gyfer pob aelod yn 1849 oedd 4s. 7½c; cyfartaledd yr holl gasgliadau ar gyfer pob aelod, 10s. 2½c. Yn 1889 mae cyfartaledd casgliad y weinidogaeth ar gyfer pob aelod yn 11s. 1½c.; a chyfartaledd yr holl gasgliadau yn 1p. 1s. 9c. Gwneir amryw gasgliadau yn awr na wneid mo honynt ddeugain mlynedd yn ol, megis y casgliad at y Drysorfa Gynorthwyol, a'r casgliad at yr achosion Saesneg. Eto, dengys y colofnau fod yr eglwysi oll yn rhoddi y pwysigrwydd mwyaf ar y casgliad at y weinidogaeth gartrefol, a'r casgliad at yr Achos Cenhadol. Mae yr olaf yn profi yn amlwg fod ffrwyth lawer yn cael ei gynyrchu rhwng bryniau Meirion yn flynyddol tuag at anfon yr efengyl i blith y paganiaid. Y casgliad cenhadol cyntaf, hyd y mae yn wybyddus, a wnaethpwyd yn Sir Feirionydd ydoedd yn 1799. Chwech o eglwysi y sir a wnaeth y casgliad y flwyddyn hono, y Bala ac Ysbytty o'r pen Dwyreiniol, a'r pedair eraill o'r rhan Orllewinol, ac anfonwyd y casgliad i ofal Mr. Charles, tuag at gynorthwyo Cymdeithas Genhadol Llundain, a chydnabyddwyd ei dderbyniad yn y Drysorfa Ysbrydol am Mehefin y flwyddyn uchod. Y pedair eglwys yn y pen yma i'r sir a wnaeth y casgliad oeddynt,-Dolgellau, 16p. 12s. 6c.; Bermo, 10p. 3s. 7c.; Dyffryn, 5p. 11s. 4½c.; Harlech, 1p. 4s. 0½c. Dywedir ar ddiwedd yr adroddiad, "Ni a obeithiwn eu bod fel blaenffrwyth offrymau helaethach, at y gorchwyl mwyaf pwysfawr, mwyaf angenrheidiol, mwyaf sancteiddiol a gogoneddus ar a wyr ein byd ni am dano." Eleni (1890), ydyw blwyddyn Jiwbili ein Cymdeithas Genhadol Dramor ar