Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr amgylchiadau lle cyfarfyddid â chywirdeb a chydwybodolrwydd gonest i achos yr efengyl, gwelid mor aml a hyny, ofal rhyfeddol ac hyd yn nod gwyrthiol rhagluniaeth y Goruchaf dros ei bobl. Heblaw y pethau a nodwyd am Catherine Griffith, cyfarfyddwn â phrawf eglur o ddiniweidrwydd Cristionogol ar un llaw, ac o ofal tadol y Llywodraethwr mawr am ei ganlynwyr ar y llaw arall, yn hanes un arall o wragedd crefyddol y Penrhyn:—

"Adwaenwn," meddai yr ysgrifenydd, "un wreigan weddw dlawd, yr hon, er maint ei thlodi, a gyfranai ryw gymaint, yn ol ei gallu, tuag at gynhaliaeth yr achos crefyddol yn ei chartref, ac nid oedd bwlch wedi bod yn ei thaliad am amser maith. Ond yr oedd ar un tro nodedig mewn profedigaeth fawr, am nad oedd ganddi ddim mewn llaw, nac un golwg am ddim i dalu ei hadduned fisol. Yn ei phrofedigaeth, meddyliodd beidio myned i'r cynulliad eglwysig y diwrnod yr oedd y tal i gael ei wneyd, rhag' meddai, 'rhoddi esiampl ddrwg i neb esgeuluso cyflawni eu haddewid.' Ond nid oedd ei chydwybod yn dawel i hyn, gan ei bod yn abl i gerdded; oblegid edrychai ar hyny yn 'esgeulusiad o'r cyd-gynulliad;' felly, rhwng bodd ac anfodd, hi a gychwynodd tua'r lle, a chyn ei bod ond ychydig latheni oddiwrth y tŷ, cyfarfu dau wr bonheddig â hi, gan ofyn iddi, 'Ai dyma y ffordd sydd yn arwain i'r Traeth Bach?' 'Ie,' ebe hithau, 'dyna'r Traeth o'ch blaen-chwi a fyddwch yno yn union.' Rhoes y boneddigion i'r hen wraig ddau swllt, ac i ffordd yr aethant, ac nis gwelodd hwynt mwyach." Mae yr hanes yn dweyd yn mhellach, i'r hen wraig holi llawer am y ddau foneddwr. Nid yw yn annhebyg, ychwaith, iddi barhau i edrych arnynt, oblegid gallasai weled a'i llygaid y fan yr oeddynt i groesi y traeth. Ond er gwneuthur llawer o ymholiad yn eu cylch, methodd a chael allan na siw na miw am eu mynediad na'u dychweliad. Cofnodwyd y digwyddiad, fel ag i roddi ar