Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd chwaer wedi ei diarddel o'r eglwys unwaith, ac nid ymostyngai i'r ddisgyblaeth. Daeth i'r seiat y tro cyntaf wedi ei thori allan, ac ar un cyfrif ni ufuddhai i'r swyddogion i fyned allan. Rhoddwyd dau frawd i wylio y drysau erbyn y tro wed'yn, er ei rhwystro i ddyfod i mewn. A bu y wyliadwriaeth yma mewn gweithrediad am amryw wythnosau. Ond un noswaith, pa fodd bynag, cafodd y chwaer anufudd gyfle i redeg y gwarchae, ac i mewn a hi, gan benderfynu mynu buddugoliaeth. Yr oedd y cyfarfod hwn ar nos Sadwrn, a Lewis William, Llanfachreth, wedi dyfod yno at ei gyhoeddiad y Sabbath; a'r peth cyntaf a roddwyd o'i flaen oedd achos y chwaer dan sylw. Adroddwyd iddo yr hanes, a chododd yntau ar ei draed a dywedodd, "Od oes neb a fyn fod yn ymrysongar, nid oes genym ni gyfryw ddefod, na chan eglwysi Duw.' Yn awr, yr ydych chwi, Ann bach, wedi myned i ymryson âg eglwys Dduw—yr ydych wedi tynu mwy na'ch match yn eich pen. Gan hyny, y cyngor goreu a fedraf fi ei roi i chwi ydyw, rhoddi eich arfau i lawr mewn pryd, a myned allan o ufudd-dod i Dduw a'i bobl." Ac, er syndod i bawb yn y lle, cododd ac aeth allan, ac ni flinodd yr eglwys mwy.

Bryd arall, yr oedd y Parch. Robert Griffith, Dolgellau, yma yn disgyblu rhyw berson, a chafwyd y person yn euog. Rhoddwyd gorchymyn iddo fyned allan yn union wedi i'r ddedfryd gael ei chyhoeddi. Ond nid ai y dyn ddim allan, ond ymaflai yn gadarn am un o'r colofnau. "Ewch a'r dyn allan," ebai Robert Griffith. "Mi âf fi ag ef allan," atebai G. P., y blaenor, gan neidio allan ar unwaith o'r sêt fawr. Ac ymladdfa lled arw a fu rhwng y swyddog a'r diarddeledig oddiwrth y golofn at y drws. Bu raid rhoddi gwarchae i gadw y drws y tro hwn hefyd.

Bu disgyblaeth hynod arall ar ferch ddibriod, yr hon oedd wedi addaw priodi dau berson yr un adeg. Y ddau flaenor, Ellis Humphrey a Robert Ellis oedd yn disgyblu y tro hwn