Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf III.djvu/269

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

I wneud i fyny am y diffyg, y mae gennym hanes gwir dda am gyfnod y dechreuad gan y Parch. R. Owen, M.A., a phe buasai dim arall yn cael ei gyrraedd trwy grynhoi hanes y deugain mlynedd diweddaf na chyffroi meddyliau yr ieuainc i fynd i mewn i'r hen gyfnodau, buasai rhywbeth wedi ei ennill. A pho hynaf y traddodiadau, goreu yn y byd ydynt: y mae'r hen draddodiadau a'r hen groniclau yn apelio'n rymus at y meddwl ieuanc; ac yr ydym yn clywed eisoes fod mwy o ddarllen nag erioed ar gyfrolau y Parch. R. Owen. Chwiliodd Mr. Owen lawer i'r pethau hyn, a gwnaeth wasanaeth mawr i grefydd trwy eu trysori a'u diogelu.

Yn 1777 yr adeiladwyd y capel cyntaf, o fewn ergyd carreg i'r capel presennol, ac oddieithr y muriau a'r to y mae erbyn heddiw yn gwbl adfeiliedig." Bychan a diaddurn ydoedd, ond bu'r fintai yno'n addoli hyd y fl. 1815,—blwyddyn brwydr Waterloo. Yna adeiladwyd yr ail gapel mewn lle arall—Bethel wrth ei enw, neu ar lafar gwlad y "Capel canol." Ar doriad allan y Diwygiad Dirwestol (tua 1834—35) cynhyddodd yr Ysgol Sul a'r gynulleidfa'n fawr, fel yr oedd yn rhaid cael capel helaethach. Gwnaed hwn mewn lle gwahanol eto, a galwyd ef yn Nasareth, oherwydd bwriadai'r holl drigolion fod yn Nasareaid, sef yn llwyrymwrthodwyr. Agorwyd y trydydd capel, sef y Nasareth presennol, ar Fehefin 8, 1839. Yn y flwyddyn 1880, ar fin cyfnod y "deugain mlynedd hyn," rhoddwyd ffrynt newydd i'r capel: yr oeddynt cyn hynny wedi ychwanegu'r galeri, sef yn 1860. Adnewyddwyd ef drwyddo, fel y mae'n awr yn un o'r capelau harddaf a mwyaf cysurus yn y cwmpasoedd. Y draul y pryd hwnnw, £1200.

Y traddodiadau o'r hen amser sy'n parhau i gael eu trosglwyddo 'mlaen ydynt Dirwestiaeth (cadwant y faner ddirwestol i fyny ar hyd y cenedlaethau, ac y maent ym mysg yr ychydig iawn o leoedd sydd yn cadw ymlaen Demlyddiaeth Dda). Addysg (yr Ysgol Sul yn dra llewyrchus, ac wedi ymadnewyddu ar ol