Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/141

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llawer mwy na'u cyd-wladwyr tlodion a ddechreuasent yr Achos; er hynny, pobl gyffredin eu hamgylchiadau ydoedd mwyafrif mawr yr aelodau o hyd. Fel y dywedwyd, yr oedd tri addoldy yn awr wedi eu hadeiladu, Pall Mall, Bedford Street, a Rose Place; ac un addoldy bychan yn Oil Street wedi ei brynu. Rhoddir cyfanswm traul adeiladu y tri chapel cyntaf yn £8,380; talesid o hynny drwy gasgliadau, a rhoddion, ac ardrethi yr eisteddleoedd, a chan gynnwys y llôg ar yr arian a fenthyciwyd, £4,680, yn gadael dyled ar y tri addoldy, Gorffennaf, 1829, o £3,700.[1] Yn y cyfnod yma ceir bod llawer o eglwysi y Cyfundeb a dyledion eu capeli yn gwasgu yn drwm arnynt. Ymdaflodd John Elias i'r gwaith o'u symbylu i glirio'r dyledion yn llwyr. Dywedir iddo yng nghorff y flwyddyn 1829, fod ymhob capel perthynol i'r Cyfundeb ym Môn i annog yr aelodau i ymaflyd yn y gwaith. Galwai sylw at y mater yn yr holl Gyfarfodydd Misol a'r Cymdeithasfaoedd. Pwysleisiai "yr anghysondeb, a'r gwarth, o bregethu Crist wedi llwyr-dalu dyled Ei bobl, mewn capeli yn cael eu llethu dan feichiau trymion o ddyled. Yr wyf yn meddwl y pregethem yn well o lawer mewn capeli di-ddyled, nag mewn rhai dyledog; oblegid gallem ddisgwyl cael mwy o bresenoldeb ein Duw gyda ni." Dygodd y mater i sylw yr eglwys yn Liverpool ar ei ymweliad â'r dref yn haf yr un flwyddyn, 1829: ond gan fod rhai o'r brodyr hynaf yn methu cydweled, ac yn hytrach yn gwrthwynebu yr amcan, nis gallwyd namyn ffurfio cymdeithas i gyd-ymdrechu yn egniol, am ysbaid deuddeng mis o amser, i dalu cymaint ag a ellir o'r ddyled." Ni wyddom pa lwyddiant a fu ar yr ymdrech hon; gallem gasglu mai ychydig ydoedd. Dywedai Mr. David Roberts, Hope Street, ei fod yn cofio yr ymdrech yn dda. "Yr oedd y cyfeillion yn gwneud eu goreu, ond nid oedd eu goreu y

pryd hwnnw ond ychydig;... yr oedd braidd yr holl addewid-

  1. Cofiant John Elias, t.d. 224. Gwelir bod y ffigyrau a rydd Pedr Fardd ychydig yn wahanol, ond nid yw'r gwahaniaeth rhyngddynt ond bychan. Dywedir bod arian yr eisteddleoedd yn rhyw gymaint mwy na digon i gyfarfod y llogau, fel yr oedd y ddyled yn lleihau yn raddol. Ond ni adewid iddi leihau, oblegid yr oedd y dref yn cynyddu, a nifer y Cymry yn lluosogi, a'r angen yn parhau am gapeli newyddion."