Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/178

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ieuenctid, ac yn arbennig lodesi, y trodd y fantol o blaid rheol y Gymanfa. Yn y diwedd cafwyd mwyafrif o 21 o blaid atal oddiwrth Fwrdd yr Arglwydd." Felly, o'r adeg honno ymlaen, atal am dymor o gyfranogi o Swper yr Arglwydd ydoedd y ddisgyblaeth a arferid yn holl eglwysi y cylch am droseddu'r "Seithfed Reol."

Peth arall a welir yn amlwg yn y Cofnodion hyn ydyw eiddigedd y tadau dros gysegredigrwydd y Saboth. Bron yn ddieithriad yr unig gosb a weinyddid am drosedd o'r Pedwerydd Gorchymyn, fel am y mwyafrif o droseddau yn wir, ydoedd diarddeliad. Wele rai enghreifftiau nodweddiadol wedi eu cymryd o Gofnodion y blynyddoedd 1836 hyd 1850: "Diarddelwyd William Davies (y gwr fydd yn arfer gwrando ar risiau y pulpud). Y pechod a aeth a hwn o'r eglwys oedd dilyn yr alwedigaeth o dwymno'r ffwrn neu y pobty ar y Sabboth. Mynnai y gwr hwn ei esgusodi ei hun, gan daflu y bai ar Ragluniaeth, gan haeru y gallai fod gan Ragluniaeth law yn ei osod dan angenrheidrwydd i weithio ar y Sabboth." "Diarddelwyd George Martin, morwr a ddaethai i'r dref hon o Gaergybi, am droseddu Dydd yr Arglwydd trwy fyned i sefyllfa oedd yn ei rwymo i'r trosedd a enwyd,—myned yn llaw ar un o'r Steam packets, a honno yn cychwyn allan ar y Sabboth a nos Sadwrn, fel ar ddydd gwaith. Ymddygodd y gŵr yma yn dra ystyfnig, ac ni pheidiai a beio ar Ragluniaeth Duw yn ei arwain i'r sefyllfa." "Bu raid diarddel Jane Hughes, Chapel Street, am fyned gyda'r steam packet i Gymru ar y Sabboth." Diarddelwyd hen wr, W. Jones o'r Rhos, am fyned i ymofyn ei gyflog ar y Sabboth. Safai yn gryf dros ei fai, gan haeru mai gwaith o angenrheidrwydd ydoedd, nas gallasai ei wneud amser arall." "Diarddel gwraig am esgeuluso dwyn ei phlant i fyny yn foesol, a'u goddef i chwareu ar y Sabboth." "Gwaharddwyd myned a bwyd i'r pobtai a phrynu a gwerthu llaeth ar y Sabboth." "Sylwyd nad oes angenrheidrwydd i neb o'n teuluoedd fod yn absennol o'r addoliad cyhoeddus un ran o'r Sabboth i baratoi lluniaeth, etc., oblegid dylai y dydd o'r blaen ateb y diben i hyn; ac yn wir nid oes angen am ryw ddanteithfwyd ar y Sabboth; mae arlwyo a bwyta bwydydd gwell nac a fyddai arferol ar ddydd-