Nos Wener, Rhagfyr 15fed, yn Saesneg, D. Lloyd Jones, Llandinam.
Y Saboth, Rhagfyr 17eg: John Evans, Garston; R. Lumley (yn Saesneg); Dr. Hugh Jones a Dr. Owen Thomas.
Nos Fercher, Rhagfyr 20fed, yn Saesneg, John Thomas, Catharine Street.
Disgwyliasid Dr. David Saunders, Abertawe, i gyd-bregethu a Joseph Thomas fore a hwyr Rhagfyr yr 8fed, ond methodd a dyfod.
Ar derfyn y flwyddyn 1875, y flwyddyn olaf ym Miller's Bridge, rhifai'r aelodau 338; ac ar derfyn 1876, y flwyddyn gyntaf yn Stanley Road, rhifent 410. Dengys y cyfrif cyntaf a gyhoeddwyd fod dyled o £3,844/2/8 yn aros ar yr adeiladau. Cydnabyddir amryw roddion gwerthfawr a diddorol, heblaw y tanysgrifiadau ariannol hael. Cyflwynodd W. D. Holt, Y.H., Liverpool, y ffenestr fawr liwiedig a welir yn ffrynt yr adeilad, uwchben y brif fynedfa. Rhodd y Cynllunydd, C. O. Ellison, ydoedd y ffenestr liwiedig brydferth y tu ôl i'r pulpud, a dwy ffenestr arall ar ochr orllewinol y capel. Rhoddwyd ffenestri lliwiedig eraill gan J. G. Hughes, Merton Road, a T. Williams, Fron, Caernarfon.
Awgrym pur glir o gynnydd y boblogaeth Gymreig ydyw'r ffaith fod tair cangen ysgol yn perthyn i'r eglwys ym mlwyddyn gyntaf ei thrigias yn Stanley Road. Rhifai ysgol Stanley Road 373. Ceid cangen ysgol yn Clyde Street, gyda 178 o aelodau ; yn Waterloo, 26; a Walton, 46. Ceir cyfeirio yn helaethach at y ddwy olaf mewn penodau eraill, oherwydd arweiniasant cyn hir i sefydliad dwy eglwys newydd,-Walton Park yn 1878, a Waterloo yn 1879. Cychwynasid ysgol Clyde Street y Saboth yr agorwyd ysgoldy newydd Stanley Road—y Saboth cyntaf yn 1876. Awgrymwyd nad oedd cyd-ddealltwriaeth hollol ynglŷn â safle'r capel newydd. Ychydig o dai gweithwyr a adeiladesid eto ar yr ochr uchaf i'r rheilffordd, ac yr oedd mwyafrif yr aelodau, fel yr adroddwyd, yn byw yng nghymdogaeth Derby Road a'r dociau. Oherwydd pellter y ffordd i'r capel newydd, penderfynodd nifer o'r aelodau a drigent yn y rhannau isaf ardrethu ystafell a berthynai i Eglwys