Tudalen:Hanes Methodistiaeth Sir Fflint.djvu/268

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Williams gyda'u gilydd i'r Berthen, i'r cyfarfodydd crefyddol. Ymhen amser ymunodd un o'r enw Thomas Jones y llifiwr, â hwynt. Ond yn 1784, cymerodd y tri dŷ yn y Llan i ddechreu achos. Ni olygai hyn ddim mwy na chynnal seiat yn yr wythnos. Buont am oddeutu blwyddyn heb i neb ymuno â hwy. Elent i'r Berthen ar y Saboth. Ond er mai y Berthen oedd eu cartref, eto teithiai y tri lawer yn y cyfnod hwn. Nid gormod ganddynt fyddai cerdded i Ruthyn a'r Bontuchel. Dywed Methodistiaeth Cymru iddynt fyned i Helygain un Saboth, ac wrth groesi y mynydd oddiyno i'r Berthen, daeth arnynt chwant bwyd. Cawsant ryw le tebyg i gorlan defaid ychydig ar gil; i'r hon yr aethant gan baratoi i giniawa. Tynasant eu tameidiau allan o'u logellau, a gosodasant yr arlwy ar fur pridd gerllaw. Disgynodd y tro ar John Williams i erchi bendith ar y bwyd; ac ar ei waith yn gwneuthur hynny, toddodd ei deimladau, a thrwyddo ef, yr eiddo y ddau arail, nes yr oedd y tri wedi eu llenwi â llawenydd annhraethadwy a gogoneddus. Arlwywyd iddynt wledd o basgedigion breision, ac o loew win puredig, fel yr anghofiasant dros ennyd y tamaid sych, a'r "bwyd a dderfydd,' gan faint oedd eu hawydd i ymborthi ar y 'bwyd a bery i fywyd tragwyddol.' "

Yn y cyfnod y cychwynnodd y Methodistiaid, preswyliai yn y lle ŵr eglwysig o'r enw John Williams. Cadw ysgol Ramadegol wnelai y gŵr da hwn. Nid ydyw dweyd nad oedd yn eglwys sefydledig Llaneurgain ddim i gyfarfod a sefyllfa meddwl dyn dan argyhoeddiad, yn unrhyw anghysondeb â'r ffaith fod yno ŵr da mewn urddau yn byw yn y lle. Oherwydd ni olyga hynny mai efe oedd offeiriad y lle. Arall wasanaethai yn yr eglwys. Yn ychwanegol nid llawer allasai Cymro, uniaith ymron ar hynny of bryd, ddeall ar weinidogaeth Seisnig; fel nad rhyfedd i John Williams gael dim yng ngwasanaeth yr eglwys i gyfarfod a'i glefyd. Cychwynnodd y gŵr parchedig hwn Ysgol Sabothol Saesneg yn y lle yn 1786. Yr oedd hyn ddwy flynedd ar ol i'r tri Methodist gymeryd tŷ i gadw moddion ynddo. Ymddengys fod esgob yng Nghaer ar y pryd, a bleidiai yn selog Ysgolion Sabothol sefydlwyd trwy offerynoliaeth Raiks rhyw chwe blynedd cyn hyn. Gan mai yn Saesneg y cynhelid yr Ysgol gan y Parch. John Williams, nid yw yn debyg y caffai fawr ddylanwad ar Gymry yr ardal.

Tua'r adeg hon, nid oes sicrwydd pa bryd yn hollol, cafwyd y Parch. Robert Ellis, yr Wyddgrug, yno i bregethu ar nos Saboth, a dyma'r odfa gyntaf o eiddo y Methodistiaid yn y lle, yn ol a dybir. Cynhyddu wnaeth yr achos, y mae'n amlwg, oherwydd