Tudalen:Hanes Methodistiaeth Sir Gaerfyrddin.djvu/197

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llawer iawn o orfoleddu a molianu yn nghenel y cŵn, yn ogystal ac yn y pentref wedi hyny. Yn y flwyddyn 1796 bu yma adfywiad nerthol iawn, yr hwn a barhaodd am dair blynedd. Cawd un cyffelyb yn y flwyddyn 1805. Cododd amryw bregethwyr o'r eglwys hon, sef John Williams, David Bowen, Llansant, James Phillips, William Williams, John Davies, a John Phillips. Yr oedd John Williams yn bregethwr pur adnabyddus. Symudodd i Abertawe cyn diwedd ei oes. Bu fyw ryw gymaint hefyd yn Llanedi. Yr oedd yr hen frawd yma yn o ddiystyr o reolau y Cyfundeb. Bu mewn helynt garw unwaith oherwydd bedyddio plentyn ac yntau hebe i urddo. Dro arall, pan ar daith yn y Gogledd, arweiniodd yr enwog Barch. Henry Rees i gryn helbul, pan oedd y gwr mawr hwnw yn dechreu pregethu, drwy ei gymell i fyn'd yn gyfaill iddo, cyn fod dyddiau ei brawf ar ben. Yr oedd John Williams yn bregethwr nerthol ar adegau. Bu Bu yn pregethu yn Llundain am fisoedd yn 1805. farw yn y flwyddyn 1823, yn 61 oed. Ceir hanes y Parch. David Bowen yn nechreu y llyfr. Ceir hanes y Parch. Josuah Phillips ynglŷn â Bancyfelin, a cheir hanes William Williams ynglŷn â Tyhen. Am John Davies, nis gwn fwy am dano na'i fod yn bregethwr adnabyddus iawn yn ei ddydd. Y mae gan y Parch. John Griffiths, Llanstephan, adgofion byw am dano. Arferai alw gyda ei dad, pan oedd Mr. Griffiths yn hogyn, a siaradent lawer am Gurnal, Matthew Henry, a Geiriadur Charles. Pregethwr bychan ydoedd, ond hen Gristion cywir a gonest. Yr oedd John Phillips yn dad i'r diweddar Barch. Josuah Phillips, Bancyfelin. Yr oedd yntau yn hen frawd hynod o gymeradwy.

Blin genyf nad wyf wedi cael fawr o hanes yr eglwys wedi y cyfnod uchod. Gwr parchus iawn yn yr eglwys hon oedd Mr. John Lloyd, Pentwyn. Bu y diweddar Dr. Edwards, Bala, yn athraw am dymor i'w blant ef. Dau o feibion y gwr uchod oeddynt Mri. John a Walter Lloyd, Meidrym. Bu y ddau o wasanaeth mawr i'r achos yn Meidrym am flynyddoedd lawer, ac y mae mab i Mr. Walter Lloyd yn aelod, os nad yn flaenor, defnyddiol a