CROESYWAEN.[1]
Pan nad oedd ond un capel yn ardal y Waenfawr, elai lliaws yno drwy lwybrau go anhygyrch weithiau, a thros bellter o ffordd, cymaint a dwy filltir neu ragor mewn rhai enghreifftiau. Dyma'r achos am y galw am gapel arall oddeutu 1863, y cyfeiriwyd ato yn hanes y Waenfawr. Er mai plaid yr un capel a orfu, eto yr oedd y teimlad o angen capel arall yn aros o hyd. Daeth y mater i ben yn Ebrill, 1878, pan y penodwyd pedwar o frodyr i wrando llais ardal Croesywaen ynghylch capel newydd. Fe gafodd y mater ei drafod mewn amryw gyfarfodydd go derfysglyd.
Yn Nhachwedd 1880, ar waith yr eglwyswyr yn rhoi eu gwasanaeth yno i fyny, a myned i'r Eglwys newydd, cymerwyd yr Hen Ysgoldy Genhedlaethol ar ardreth, a chychwynnwyd ysgol Sul yno. Cychwynnwyd y 14 o'r mis, pryd yr oedd 82 yn bresennol, T. Jones, ysgolfeistr, yn arolygwr. Traddodwyd y bregeth gyntaf yn y prynhawn gan Mr. Francis Jones, Chwefror 6, 1881. Cafwyd amryw bregethau yn ystod y flwyddyn, ac wedi hynny trefnwyd pregeth yn rheolaidd unwaith yn y mis. Cychwynnwyd casgl misol at dreuliau yr ysgol ym Medi, 1881, a pharhawyd gydag ef hys nes y trowyd ef yn gasgl at y capel newydd.
Yn Nhachwedd, 1882, impiwyd ysgol fechan Plas Glanrafon i ysgol Croesywaen, ac anfonwyd y Mri. Benjamin Williams a Robert Williams Brynbeddau, yno i gynorthwyo. Ar ol hynny bu'r Mri. Morgan Jones Pant a William Parry Warwick yn myned yno. Gwŷr fu'n ffyddlon a blaenllaw am ysbaid maith gyda'r ysgol hon oedd W. Williams (Sardis) a Mr. R. H. Parry Glanrafon. Yn nechre Ebrill, 1883, gwnawd cais gan ysgol Croesywaen ar eglwys y Waen am gapel. Cyfarfodydd cynhyrfus. Teimladau yn llareiddio mymryn, a chydnabod rhesymoldeb y pwnc, ond fod masnach yn isel.
Ar waith eglwys y Waen yn rhoi galwad i W. Ryle Davies, fe gytunwyd drwy benderfyniadau ar godi eapel a sefydlu eglwys,
- ↑ Ysgrif Mr. Thomas Jones ysgolfeistr. Ysgrif Mr. Benjamin Williams ar Gymeriadau Eglwys Croesywaen.