ati, yna Williams, yna Hughes. Y mae'r nodiad yn dwyn cysylltiad âg amryw bersonau amlwg yn yr hanes, a rhed fel yma: "O 1744 i 1777 yr oedd gwr lled gefnog yn byw ym Meillionnen, a chanddynt brydles ar y lle. Y mae'r dyddiadau a geir ar ei garreg fedd ef a'r teulu yn cytuno â'r cofnodlyfr plwyfol. Bu Dorothy, baban John Williams Meillionnen, ac Elizabeth ei wraig, farw Mawrth 14, 1745, yn flwydd oed. Bu Elizabeth Howel farw Gorffennaf 3, 1765, yn 60 oed. Bu John Williams farw Mehefin 10, 1777, yn 71 oed. Yr oedd Elizabeth Howel yn ferch Howel John Griffith, neu Howel Jones o'r Ereiniog, ac yn chwaer i Edward Powel Ereiniog ac i John a Griffith Powel Hafod y rhisgl, ac o'r un cyff a Phoweliaid Llanfihangel y Pennant. Yr oedd Harri Thomas wedi priodi Marsli Powel, merch i John Powel o Hafod y rhisgl, ac felly yr oedd Elizabeth Howel neu Powel yn fodryb iddi. Yr oedd John Williams yn wr crefyddol, ac yn eangfrydig ei syniadau, ac yr oedd ei wraig o'r un dueddfryd ysbryd. Yr oedd Marsli Thomas yn nodedig o grefyddol a thanbaid. Ar ol marw Elizabeth Howel, priododd John Williams Letuce Davies, a berchenogai Danrallt, gerllaw Abergele. Ceir hysbysiad am fedyddiad plant i' John Williams, yeoman of Meillionnen and Letuce his wife' yn y cofnodlyfr plwyfol, William yn 1772 a John yn 1776. Ar ol marw John Williams yn 1777, bu Letuce Williams yn byw yn weddw am gyfnod yn y lle, a bu hi yn lletya Thomas Charles yno yn 1784, fel y cyfeiria'r llythyr. Yr oedd yn wraig ryddfrydig, gymwynasgar a chrefyddol. Mewn un hen ysgrif neilltuol, gelwir hi "yn weddw gyfrifol oedd yn byw ym Meillionnen." Yn y cyfamser priododd Letuce Williams â Rice Hughes Treferwydd, Môn, ysgrifennydd cyfreithiol yn Dinam. Yr oedd ef wedi bwrw ei goelbren gyda'r Methodistiaid ym Môn, ac yn dwyn mawr sel dros yr achos. Buont yn dal Meillionnen am ysbaid fel 'penturiaeth,' gan fyw yn rhanol yno ac ym Môn. Trwy eu hofferynoliaeth hwy y cafodd bwthyn Ty'n y coed ei agor at wasanaeth y Methodistiaid. Dodrefnwyd y tŷ yn bwrpasol at gynnal moddion gan Letuce Hughes. Pan fyddai Ty'n y coed yn rhy fychan i'r gynulleidfa, cynhelid y gwasanaeth ym Meillionnen. Bu Rice Hughes farw yn 1794 yn 42 mlwydd oed a Letuce Hughes yn 1819"]. Ymunodd amryw o rai cyfrifol â'r achos yn Nhŷ'n y coed, sef William Sion o'r Gefnen, William Williams o'r Ffridd, wedi hynny Hafod rhisgl, Rhys William Hafod llan, Richard a Hywel Gruffydd o'r Carneddi, ynghydag
Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/134
Gwedd