1893, yn 60 oed. Fel athro ysgol, ebe Carneddog, yr oedd George Thomas yn enwog. Brodor o'r Drefnewydd. Daeth yma heb fedru Cymraeg, a meistrolodd yr iaith yn fuan. Bu'n arweinydd corawl yn y pentref. Gweddïai yn gyhoeddus yn Saesneg. Yr oedd yn fanwl yn ei swydd fel ysgrifennydd yr eglwys. Bu farw Ebrill 28, 1895, yn 62 oed. Yn 1894 fe ddewiswyd David Pritchard Cwmcloch, Griffith Williams Smith Street, Robert H. Roberts.
Edward Morris oedd ysgolfeistr cyntaf yr ysgol Frutanaidd, pregethwr gyda'r Bedyddwyr. Yn ol rhestr y Cyfarfod Misol yn 1851, yr oedd yn bregethwr gyda'r Methodistiaid erbyn hynny, a bu yng Nghyfarfod Misol Medi. Y mae ei enw i lawr mewn rhestr ynglyn â'r Cofnodion am 1852, ond wedi ei groesi allan, ac ni bu mewn Cyfarfod Misol namyn ym Medi, 1851. Dyfynna Carneddog Wilym Eryri yn ei gylch. Dywed ef y taflai'r ysgolfeistr y riwl fawr atynt hwy y plant, ac y tarewid hwy weithiau yn eu pennau gyda'r fath rym fel y codai chŵydd yn y fan cymaint ag ŵy iar. Byddai raid myned a'r riwl yn ol i'r Pharo Neco. Cred Gwilym y buasai naill hanner plant y dyddiau yma yn marw dan ei ddwylo. Eithr ni oddefid mono ddim rhagor gan y rhieni, a gorfu iddo gymeryd y goes. Cychwynnodd John Williams ei flwyddyn brawf fel pregethwr yma, Mehefin, 1861, sef yr un o'r enw a fu'n weinidog ar Siloh, Caernarvon, wedi hynny; a Griffith Tecwyn Parry, Rhagfyr 3, 1866; a W. Matthew Williams yn 1876. Rhoddwyd llythyr cyflwyniad i'r olaf i'r America, Gorffennaf 2, 1883. Adnabyddir ef bellach fel William Matthew, ac y mae yn fugail yn Nosbarth Waukesha, Wisconsin.
Bu William Ellis, gweinidog cyntaf yr eglwys, farw Gorffennaf 13, 1895, yn 58 oed, wedi gwasanaethu ei swydd yma am y 24 blynedd olaf o'i oes, namyn ychydig fisoedd. Daeth o Beniel yma (Edrycher Peniel). Un o ardal Cefn y waen ydoedd. Aeth o chwarel Dinorwig i'r ysgol at Eben Fardd yn ei 21 mlwydd oed, yn ol Carneddog yn y Cymru. Meddyliai ei ysgolfeistr yn dda ohono, a buont yn ymohebu peth wedi iddo adael yr ysgol. Darllennai bob llyfr y caffai afael arno pan yn chwarelwr, a daeth y nodwedd hon yn amlwg arno dros ei oes. Yr oedd ganddo gasgliad go dda o lyfrau y Puritaniaid, a rhai o'r llyfrau goreu diweddar, a darllennai y naill a'r llall yn drwyadl. Yr oedd wedi darllen