gwasgu â'i law, nes peri i'r troseddwr edifarhau am ddod i'w afael ef, a phenderfynu na chaffai afael arno rhag llaw. Byddai hynny o gyfnewidiad, ebe John Jones Tŷ capel, yn meddwl pob un a ddeuai i'w afaelion. Llygaid gwan oedd ganddo, ac arferai wydr crwn bychan i edrych trwyddo, a chredai plant yr ardal fod y gwydr hwnnw yn dangos eu pechodau yn fwy nag oeddynt. Unwaith y dodid y gwydr ar ryw blantos o bechaduriaid tua'r capel, nid oedd dim i'w wneud ond ffoi o'i ŵydd, neu ynte redeg ato i ofyn am faddeuant. A medrai Owen Cadwaladr faddeu cystal ag y medrai wasgu. Maddeuai yn rhwydd lle tybiai yr ymddiriedid ynddo. Eithr fe ddywedir y twyllid ef yn weddol hawdd gan aml ddyhiryn ieuanc, a gymerai arno arfer ymddiried er mwyn maddeuant. Rhoes Owen Cadwaladr ei arian yn o rwydd am ddysgu allan o'r Salmau a'r Diarhebion. Pan oedd William Williams Bod y gof, Llanberis, ebe Carneddog, yn blentyn adref yn efail y pentref, addawodd Owen Cadwaladr ddeuswllt iddo am ddysgu allan y bedwaredd bennod o'r Diarhebion erbyn y galwai efe yno drachefn, Daeth ymhen y pythefnos, a chododd Wil bach i ben yr engan, ac adroddodd y bachgen y bennod yn gywir, a rhoddwyd y ddeuswllt iddo o galon rydd. Yr oedd yn gredwr mawr yn noethineb Selyf. Anogai i haelioni, a dyfynnai yr ymadrodd hwnnw, "Anrhydedda'r Arglwydd â'th gyfoeth, ac â'r peth pennaf o'th holl ffrwyth; felly y llenwir dy drysorau â digonoldeb." Ac efe ei hun oedd cyfrannwr mwyaf haelionnus yr ardal at bob achos teilwng. Gollyngai ei sofren oddirhwng dwy ddimai i'r gwpan gasglu, at ddyled y capel, at gymdeithas y Beiblau, at y genhadaeth, ac at gasgl dydd diolchgarwch. Nid ceryddwr llym crintachllyd oedd Owen Cadwaladr, fel y bu ambell un o'i flaen ac ar ei ol. Ymwelai â theuluoedd tlodion yn y gaeaf rhag bod eisieu arnynt am danwydd, a chariodd lawer o lô iddynt am ddim. Ac nid oedd yn greulon wrth neb a fai yn ei ddyled. Ni feddai ar nemor ddawn gyhoeddus; ei ddawn oedd cyfrannu. Bu farw Chwefror 14, 1867.
Daeth Richard Jones Tŷ mawr at grefydd yn adeg y diwygiad dirwestol yn 1836, neu'n fuan wedyn. Gwr bychan o gorff, byw, go anibynnol. Diwyd a gweithgar gyda phob gorchwyl. Bu'n ffyddlon gyda'r ysgol Sul a'r canu. Bu'n arweinydd y gân o 1839 hyd 1856, pryd y symudodd i dŷ capel Bethania. Yr oedd yn gerddor da, ac addysgodd eraill. Ymdyrrai hen bobl yr ardal ato i'w dŷ ar fore Sul cyn adeg y moddion er cael tro ar eu hoff donau,