Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/220

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ond dyn a aned i flinder, fel yr eheda gwreichionnen i fyny." Dychrynodd y sipsi, ac aeth ymaith mewn siom a digter. Sian William Cwm bychan, gwraig Richard William, oedd ddynes oleuedig. "Y fwyaf gwybodus yn Nantmor," meddai John Owen Ty'n llwyn am dani, pan atebodd yn gampus yn rhyw Gyfarfod Ysgolion. Bu'n athrawes ar hen wragedd am flynyddau maith. Catrin Robert y Clogwyn, merch Robert Roberts, a gwraig i William Roberts, oedd yn dawel ei ffordd, yn gadarn yn yr Ysgrythyrau, [dysgodd yr Hyfforddwr bob gair a chyfran helaeth o'r Beibl, ebe Mr. D. Pritchard], ac yn byw yn hollol i Dduw. Hen ferch oedd Catrin Robert Tŷ capel, a gadwodd y tŷ capel am flynyddau lawer, ac a oedd orofalus am y pregethwyr a'r achos. Cynghorai blant ei dosbarth fel pe'n fam iddynt. Yr oedd yn nodedig o grefyddol. Chwaer i Sioned Owen oedd Nansi Morris, ac heb nemor ddawn i drin y byd. Yr oedd ei meddwl fel pe wedi ei sefydlu yn y byd ysbrydol. Hoff o gynghori plant. Gweddïai yn gyhoeddus ac yn ddirgel. Byddai'n gwaeddi Amen dros y capel, mewn dull cwafriol a chynes, wrth wrando pregeth neu weddi. Bu farw mewn oedran teg, a chyda hi y collwyd yr olaf o'r hen chwiorydd Puritanaidd, hen ffasiwn eu dull o grefydda, yn Nantmor.

Dyma rai sylwadau eto ar yr hen chwiorydd gan Mr. D. Pritchard. Ann Dafydd Bwlch gwernog oedd yn llawn o ysbryd yr Efengyl. Cerddodd lawer i sasiynau Llangeitho a'r Bala. Cerddodd yn droednoeth i sasiynau y Bala, hyd yn oed yn ei hen ddyddiau. Gorfoleddodd lawer. Ei Hamen gynes yn help i'r pregethwr. Mari Prichard Bryn ysgubor a ddioddefodd lawer o erlid oddiwrth ei gwr oherwydd ei chrefydd. Eithr hi a'i henillodd ef o'r diwedd, a bu'r ddau fyw wedi hynny mewn cydymdeimlad llwyr â'i gilydd, ac mewn ymroddiad i fuchedd sanctaidd. Pa "bryd bynnag y rhoddai Margret Jones y Buarthau y pennill yma allan yng nghyfarfod y merched fe'i cenid gyda hwyl neilltuol:

Tân, tân, o blaniad pur yr Ysbryd Glan,
A wna i Seion seinio cân;
Hi deithia 'mlaen drwy'r anial maith,
Er gwaethaf llid y ddraig a'i had :
Am rin y gwaed hi gana byth.

Rhif yr eglwys yn 1900, 122.