Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

amrywiol gyfarfodydd. Eithr yr oedd plaid yn y capel yn erbyn i arian yr achos fyned tuag at gynnal ysgol ddyddiol. Yn y cyfwng yma y mae'r eglwyswyr yn llareiddio'r gosp am esgeulustra gyda phethau eglwysig, ac yn rhoi allan mai ysgol ddi-Dduw fyddai'r ysgol newydd, a thrwy'r moddion yma yn cyfnerthu'r blaid geidwadol yn y capel. Byddai John Jones Talsarn yn dod yma i roi pregeth ar y nos Fercher ryw unwaith yn y flwyddyn, a chafwyd ganddo ef ar yr achlysur hwnnw, drwy ddylanwad Owen Jones y crydd ac eraill o'r blaid ddiwygiadol, siarad o blaid ysgol newydd. Gwnaeth yntau "ymosodiad ofnadwy," ebe Dafydd Thomas, ar gatecism yr eglwys, ac, wedi'r tarannu hwnnw, llwyddwyd i gychwyn ysgol yn y capel yn 1849. Gwr o'r enw Joseph Griffith, ysgolfeistr rhagorol, yn ei chychwyn. Ar ei ol ef, David Williams o Bethesda. "Llwyddiant perffaith,' Llwyddiant perffaith," yn ol Dafydd Thomas. Eithr ni cheid cymorth y llywodraeth i ysgol a gynhelid yn y capel. Cynhyrfu am ysgoldy, a llwyddo. Codwyd yr ysgoldy yn 1852 ar dir yn perthyn i'r capel. Chwarelwyr yn codi'r cerryg, a'r tyddynwyr yn eu cario, yn rhad. Gweddill y draul yn cael ei gyfrif fel dyled ar y capel. Ond er cael cymorth y llywodraeth, rhaid ydoedd am gymorth y capel hefyd. Cynhaliwyd yr ysgol ymlaen hyd etholiad y Bwrdd Ysgol yn 1871. Cydnebydd Dafydd Thomas lwyddiant yr holl ymdrech, er heb ddwyn sel neilltuol drosto. Y mae Pierce Williams yn dwyn mawr sel dros yr ymdrech, ac yn rhoi mawrglod i'r "blaid ddiwygiadol" yn yr eglwys a'i dygodd i ben.

Gwelwyd mai yn 1837, yn yr ysgoldy, y dechreuodd yr Eglwys Wladol gynnal moddion yn y pentref. Yr oedd yr eglwys ym Metws Garmon, oddeutu milltir o ffordd i gyfeiriad Beddgelert. Nid oedd poblogaeth y plwyf hwnnw ond 94 yn ol deiliadeb 1861. Dechreuodd yr Anibynwyr bregethu yma yn 1813. Adeiladwyd eu capel yn 1829, ym mhen blynyddoedd ar ol sefydlu'r eglwys. (Hanes Eglwysi Anibynnol, III. 265).

Y mae Pierce Williams yn rhoi pwys ar yr hyn a ddengys hanes yr ardal ei fod yn wir, sef mai dynion amlwg gyda chrefydd oedd yr arweinwyr yma gydag addysg a phethau gwladwriaethol. Eglura ef, hefyd, mai mantais i'r achos oedd mantoliad pleidiau yn yr eglwys, megys yn y wladwriaeth, sef y blaid geidwadol, a fynnai gario allan gynlluniau y Cyfarfod Misol, ac a gynrychiolid gan y blaenoriaid, a'r blaid ddiwygiadol, a fynnai gymell pethau i