Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yma gymdeithas eglwysig cyn Mehefin 15, 1749. "Tua chan mlynedd yn ol," ebe Morgan Jones, gan ysgrifennu yn 1848, y byddai Howel Harris yn ymweled â'r lle. Os cymerir 1748 fel amseriad sefydlu'r eglwys yma, fe ymddengys hynny fel yn o debyg i gywir. Dichon y sefydlwyd cymdeithas eglwysig yr un pryd yn Llanberis, ac mai dyma'r ddwy gyntaf yn Arfon, os nad oedd yna un yng Nghlynnog.

Fe ymddengys oddiwrth Fethodistiaeth Cymru fod gwahaniaeth barn yn yr ardal ynghylch y man y bu pregethu gyntaf yno gyda'r Methodistiaid, gan y dywedai rhai hen bobl mai Bryngoleu ydoedd y fan, lle ag oedd, hwnnw hefyd, ar dir Hafod y rhug. Y mae'r gwahanol adroddiadau yn cytuno mewn dweyd mai yn Hafod y rhug y bu Howel Harris, ond yn unig y dywedid gan rai y bu pregethu yn y Bryngoleu cyn hynny, sef gan y Methodistiaid.

Evan Dafydd ydoedd gwr Hafod y rhug, ac yr ydoedd efe yn gynghorwr. Nid oes hysbysrwydd am y pryd y daeth efe ei hun at grefydd. Fe adroddir, pa fodd bynnag, ym Methodistiaeth Cymru, am dano yn gwrando ar bregeth yn y Bryngoleu, sef y gyntaf, debygir, a draddodwyd yno, os nad yr unig un. Wedi cyrraedd ohono adref, bu ymddiddan rhyngddo ef a'r wraig ynghylch yr oedfa, ymddiddan a'i dengys hi yn wraig eithaf ffraeth a thafodlym. Yr oedd efe wedi ei gwahodd hi gydag ef i'r oedfa, ond ymesgusodai hithau gan ddweyd fod arni eisieu rhoi bwyd i'r moch. Fe ddywedir ddarfod iddo ddychwelyd cyn diwedd y bregeth, pa beth bynnag a argoelai hynny, prun ai ofn y wraig ynte rhywbeth arall. "Pa beth oedd gan y pregethwr i'w ddweyd?" gofynnai hithau. "'Roedd y Beibl ganddo o'i flaen," ebe yntau. "Wel ïe," ebe hithau, "ond beth oedd o'n i ddeud?" "Yr oedd o'n edrych arna'i o hyd, ac yn dweyd mai disgyblion y diafol oeddym, a bod i nod o arnom ni." Ebe hithau yn ol, "Pam na fuasit ti yn aros yno hyd y diwedd, fel y gallsit ofyn iddo, ai bugail y diafol oedd o, gan i fod o mor gyfarwydd â'i nod o?" Dichon fod Evan Dafydd wedi ei argyhoeddi cyn ymweliad Howel Harris. Efe a fu farw Ebrill 24, 1750, yn 45 oed. Enwir ef gan Robert Jones Rhoslan fel un o'r pedwar cynghorwr a fu yn sir Gaernarvon na chlywodd efe mohonynt. Pregethwr syml, cyfeiriol, yn ol y syniad am dano. Yn ei gartref ef yn Hafod y rhug y bu'r pregethu o adeg ymweliad Howel Harris â'r lle, a'r traddodiad ydoedd, fel y