geiriau,—"O Iesu mawr, cadw fi yn agos atat ti!" a'r cyffelyb erfyniau. Yr oedd urddas yn gorffwys ar ei wedd a llymder yn ei edrychiad. Gwr penderfynol, di-droi-yn-ol. A gwisgai ei wedd dawelwch, a rhywbeth o dywyniad wynepryd y sant. Heb fod yn siaradwr naturiol ddawnus, yr oedd awch ar ei ymadroddion. Ar brydiau fe siaradai dan ryw gyffroad arno'i hun, a'i deimlad yn dygyfor o'i fewn, ac yna fe luchiai ei ymadroddion allan gyda grym, a gwefreiddiai'r gynulleidfa. Ac, yn arbennig, yr ydoedd yn arweinydd dynion. A thros ben ei gyneddfau naturiol, yr oedd ei gymeriad fel crefyddwr yn ddifrycheulyd; yr oedd yn nodedig mewn gweddi; ac yr oedd yn llwyr-ymroddgar i'r achos. Fe wasanaethai ei holl nodweddion ynghyd i'w wneuthur yn wr cadarn, nerthol yn yr eglwys. Cyn dod at grefydd, efe oedd pen ymladdwr yr ardaloedd. Mynych y cyflawnai wrhydri fel ymladdwr mewn ffeiriau a gwylmabsantau. Mewn llofft yng Nghaernarvon unwaith fe ymosodwyd arno gan nifer o ddyhirod. A chan fethu ohono wthio ei ffordd drwyddynt, fe ddododd ei ddwylo ar y distiau isel, a dechreuodd gicio â'r fath egni fel y diangodd bawb ohonynt ymaith. Dro arall, ar y maes yn y dref, fe welai gyfaill iddo yn cael y gwaethaf yn ring y paffio. Gan fethu ohono, oherwydd y tyndra, a gwthio ei ffordd drwodd, fe giliodd beth yn ol, er cymeryd wîb, a rhoes lam dros bennau'r bobl i ganol y ring, a gwaredodd ei gyfaill. Yr oedd boneddiges unwaith, merch i deulu gyda'r uchaf yn y sir, yn cael ei chludo yn un o'r cerbydau bychain perthynol i'r inclên yn y chwarel, pan y torrodd y gadwen, ac y cychwynnodd y certwyn ar y goriwaered. Yr oedd William Jones yn digwydd bod yn ymyl, ac mewn amrantiad rhoes lam dros y certwyn, gan godi'r foneddiges allan fel yr elai drosodd, a'i chludo gydag ef i'r ochr arall. Y chwedl yn yr ardal ydyw ddarfod ei wobrwyo yn hael dros ben am ei ddewrder, a mynn rhai ddarfod i'r foneddiges fyned mor bell a chynnyg priodas iddo, gan faint ei theimlad o waredigaeth am ei gwaredu mewn modd a ymddanghosai braidd yn wyrthiol. Yr oedd ei galon ef, pa ddelw bynnag, yn rhwym wrth arall. Yr ydoedd o hiliogaeth yr Anacim. Diau fod yr enw oedd iddo, ac i'w deulu o'i flaen, yn ei wisgo â dylanwad arbennig ar ol ei droedigaeth. Sonia Mr. J. W. Thomas am ewythr iddo, Sion Sion, a gyflawnodd wrhydri yn ei ddydd ail i'r eiddo tri chedyrn Dafydd. Ni wiw son am danynt yma. Eithr un peth a wnae o fewn y cysegr, sef cadw gwyliadwriaeth ar nifer o las—lanciau a
Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/50
Gwedd