Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac, ar un adeg, yn y cyfarfod dirwestol, cystal a chyfarfodydd mwy neilltuol yr eglwys. Efe yn bennaf a wasanaethai mewn cynhebryngau. Holwr ysgol campus. Edrydd Mrs. Jane Williams Pant defaid y codai o'i sêt, gan roi pennill allan, a chyn ei ganu, dechre holi arno, gan ennyn chwilfrydedd yr ysgol. Ar dro y digwyddodd hynny. Yn ddarllenwr o'i ieuenctid, ac yn ysgrythyrwr da. A dawn iraidd, rwydd, ystwyth, swynol ymhob cyflawniad cyhoeddus. Byddai lliaws yn wylo yn fynych wrth ei lais melodaidd mewn gweddi. Cyhoeddwr dawnus, clir. Y ddawn i arwain ynddo yn gynhenid. Fel stiwart yn chwarel Cefndu am 30 mlynedd, fe'i cyfrifid yn wr caredig, hywaeth. Cefnder i Griffith Jones Tregarth. Byddai weithiau yn rhyw gaffio am arabedd ei hun, ond yn wahanol i'w gefnder yn hynny, yn amlach yn cael cam gwag nag yn sangu ar dir caled. Yr ydoedd yn gefnder hefyd i Owen Morgan y blaenor. Eithr o gyneddfau yn hytrach yn gyferbyniol iddo yntau, gan fod y naill yn ymadroddus a'r llall yn dawedog. Mwy o falasarn, hefyd, yn Owen Morgan ar gyfer dydd tymhestlog. Yr ydoedd Morgan Jones yn gynllunydd yn yr eglwys, a medrai weithio ei gynlluniau allan. Medru goddef geiriau bryntion, a thywallt olew ar ddyfroedd cythryblus. Yn cyfarfod ymosodiadau disymwth yn dawel, a chyda thymer ddisgybledig. Yn ddyn caredig, agos at bawb. Yn dyner, er yn grâff. "Wna'i mo'ch canmol chwi rhag i chwi ymfalchio; wna'i mo'ch beirniadu chwi rhag i chwi dorri eich calon," ebe fe wrth ymgeisydd ieuanc am y weinidogaeth. Rhoes amser ac arian yn rhwydd i wasanaethu'r achos. Y mae Pierce Williams yn ei gyferbynu â Richard Owen, ac yn rhoi bywiogrwydd, gwres ac eangder gwybodaeth ymhlaid Morgan Jones yn fwy, tra yn rhoi hunanlywodraeth a golygiad cyffredinol dros anghenion yr eglwys ymhlaid Richard Owen yn fwy. Richard Owen yn fwy yn ei farn ef o ran cydgrynhoad yr holl nodweddion angenrheidiol. Y naill a'r llall, er hynny, yn enghreifftiau da o'r cydgrynhoad hwnnw. Llestri hardd ydoedd y naill a'r llall, er nad yw eu coffadwriaeth yn rhoi sain cwbl gynghaneddol pan darewir hwy yn swta â migymnau'r llaw. O'i gyferbynu â William Jones drachefn, fe arferai Morgan Jones fwy ar ei ddylanwad, yr oedd yn naturiol yn fwy o arweinydd cyhoeddus, ac yr oedd ganddo fwy o ddawn swynol. Oblegid y pethau hyn y dywed Mr. Evan Evans mai Morgan Jones oedd "haul y Waen" yn ei amser. Bu farw Chwefror 20, 1878, yn 67 oed. Pregethodd Mr. Francis Jones y nos Sul dilynol mewn