hunanfeddiannol. Un goes ddiffrwyth, ac yn cerdded gyda ffynn bagl. Bob pnawn Mercher, darllennai Richard Jones yr Amserau iddo yn ei weithdy, yr unig un hyd y gŵyr ef, a dderbyniai newyddiadur yn yr ardal. Pan fyddai rhyw garreg afael mewn erthygl, fe gymerai Owen Jones seibiant i'w hystyried, a dodai saig ffres of dybaco ynghil ei foch, lledgamai ei ben, a gwnae lygaid main drwy'r ffenestr ar lechwedd y Cyrnant gyferbyn. Wedi cael boddlonrwydd meddwl, ail ymeflid yn yr edau grydd, a thynnid hi drwy'r tyllau gydag egni adnewyddol. Tlawd ei amgylchiadau, gyda theulu lliosog. Yn agored i lewygfeydd. Yn galonnog a phenderfynol drwy'r cwbl. Yn cyfrannu at yr achos gyda'r goreu. Sian Jones ei briod yn gynllunydd ddihafal yn ei thŷ, a chafodd yntau dipyn o hamdden oddiwrth drafferthion yn niwedd oes. Yn anibynnol ei feddwl ac yn eofn i'w ddweyd. Nid oedd teimlad mor amlwg ynddo a llawer. Yn wr pwyllog, yn adnabod y natur ddynol, yn cydymdeimlo âg ieuenctid. Yn gydbwys ei alluoedd a'i gymeriad. Pam na wnawd mono yn flaenor? Mab iddo ef ydyw Mr. E. O. Jones, ac ŵyr iddo ydyw Mr. O. H. Jones (Llan- ilar). Bu farw Mehefin 9, 1884, yn 82 oed.
Blaenor ymroddedig a duwiol ydoedd Samuel Morgan, ebe cofnod y Cyfarfod Misol. Brawd Owen Morgan, a gwr tawel fel yntau. Yn siaradwr eithaf rhwydd, a chysondeb yn ei feddyliau. Ofn mawr bod yn dramgwydd i eraill. Yn flaenor ers 1861. Y mae'r nodiad yma am dano gan Ryle Davies: "Dechreuodd ei grefydd gyda 'glyn cysgod angeu,' sef pregeth gan y diweddar Barch. D. Jones Treborth ar y testyn. Darlunid y glyn fel nant ddofn, gul, dywyll, yn llawn o fwystfilod rheibus ar bob llaw. Wrth wrando'r darluniad byw, teimlai Samuel Morgan ei enaid yn myned i lawr drwy'r glyn dychrynllyd ynghanol ofnau mawrion; ond pan ar ymollwng ynghanol yr ofnau, clywai lais ymlaen yn gweiddi yn uchel, 'Mi fyddaf fi yn Dduw iti.' Pan y clywodd y geiriau hyn collodd ei holl ofnau ar unwaith. Ymunodd â chrefydd, ac erbyn hyn dyma ef wedi dyfod i'r glyn yn llythrennol. Ond y mae yn gallu dweyd yn orfoleddus fod Iesu Grist wedi ymlid ymaith yr holl fwystfilod rheibus." (Cofiant, t. 100). Bu farw yn nechre 1885 yn 70 oed.
Sefydlwyd cangen-eglwys Croesywaen yn 1886. Aeth dros 120 o'r aelodau oddiyma yno. Eglwys y Waen yn 500 o aelodau