pa beth a feddylid ganddynt yn eu gwahodd yno,—hwy oedd wedi bod yn gweithio yn galed drwy'r dydd yn y chwarel,—ac heb ddarparu yn well na hynny ar eu cyfer. Beth oedd rhyw gwestiwn plentynaidd, neu waeth na phlentynaidd, fel, "A fuaset ti yn leicio cael crefydd ?" yn dda? "Beth fuasechi yn ddisgwyl fel ateb ond, 'Buaswn.' Pe buasechi yn gofyn y cwestiwn i'r cythraul ei hun, tebyg mai 'Buaswn' fuasai ei ateb yntau." Fel mai rhaid ydoedd wrth ofal yr adeg honno wrth ymlwybro ymlaen. Holid yn llym wrth dderbyn i aelodaeth. Eithr os byddai'r ym— geisydd yn gwisgo yn o blaen, ac heb ddilyn yr arfer newydd. gyda'r gwallt, elai hynny ymhell iawn o'i blaid. Ond gyda phob cyfyngdra yn y dull, ceid yn fynych wlith bendith ar y cyfarfodydd.
Disgyblaeth lem oedd yr arfer. Hen wr parchus,—ef a'i deulu ymhlith y rhai mwyaf eu dylanwad yn y lle—wedi cymeryd un gwydraid o gwrw ar dro. Diarddelwyd ef. Chwerwodd y teulu. Daeth yr hen wr i'r seiat yn ol cyn bo hir. Eithr fe ddarfu'r amgylchiad ddifetha ei ddylanwad fel crefyddwr am weddill ei oes. Geneth dlawd wedi cael gŵn sidan wedi ei droi heibio. Ei rhybuddio na thalai y cyfryw ffardial mo'r tro yno. Ei wisgo a wnaeth yr eneth, er hynny, am nad oedd ganddi yr un arall, a chafodd lonydd. Yr eneth yn cael un o'r hen foneti mawr ar dro arall, a hwnnw yn drwmlwythog o flodau a dail amryliw. Yr hen flaenor, —yr un un ydoedd—wedi ei gynhyrfu y tro hwnnw i'r gwaelod isaf, nes colli ei limpin yn lân. Ni ddywedir ddarfod diarddel yr eneth y troion hyn, namyn ei cheryddu yn dost anaele.
Blinid y saint, hefyd, ar brydiau gan ymrafaelion. Llusgwyd Cadi Beca allan o'r seiat aml waith, am na fynnai hi fyned heb ei llusgo. Er ei llusgo allan, byddai Cadi yn ol y seiat nesaf, neu'r nesaf at honno. Cadi Beca ydoedd ei henw y tuallan i'r seiat, ond Catrin William y gelwid hi oddifewn, o achos mai William Dafydd oedd ei thad. Wrth godi yn ei le un tro, ebe'r pen blaenor, "Mi welaf Catrin William yma heno. 'Dwyti ddim ffit i fod yma, ac am hynny, dos allan!" Eithr nid mor rhwydd a hynny y ceid gwared o Gatrin. A bu yno beth ymgecraeth. Richard Jones a sonia am dani fel Catrin Ty'n drwfwl. "Llarpen o fenyw drom, ferr a chethin yr olwg arni." Ymladd a chweryla oedd y pechod parod i amgylchu Cadi, a gallai arfer ei dyrnau gyda deheurwydd ac effeithioldeb. Un tro, yn y seiat, wedi i'r ddedfryd fyned i'w