a fu fyw i oedran teg, gan wella yn ei grefydd o hyd. O feddwl cryf a barn addfed. Sonir am "William Morgan ieuanc, nefolaidd ei ysbryd, yr hwn a fachludodd ynghanol ei ddisgleirdeb." (Drysorfa, 1852, t. 205). Sonia Mr. Thomas Jones Tŷ capel am Owen Ellis ac Ellis Roberts, meibion Griffith Ellis Cil haul. Yr oedd William Ellis, yn enwedig, â rhywbeth nodedig iawn ynddo. Ysgubwyd hwy i mewn i'r eglwys gan donn diwygiad 1859. Daeth i'r golwg yn Owen yn union ddawn nefolaidd. Yr oedd swyn yn ei lais: yr ydoedd yn felodaidd ac yn fwyn. A chlywid yn ei weddiau syniadau anarferol. Ni oerodd ei gariad cyntaf, a bu farw yn fuan wedi i donn y diwygiad gilio yn ol. Ellis Roberts oedd ganwr carolau. Dyna un—"Er cofio'r dydd ganwyd ein Ceidwad mewn pryd." Ond ei hoff garol oedd "Carol y blwch." Diweddai pob pennill ohono gyda'r llinell—"Rhoi blwch aur Nadolig yn Glennig i'r da." Cenid carolau y pryd hwnnw ar nosweithiau'r Suliau o flaen ac ar ol y Nadolig. Drwy gelfyddyd Noah y trowyd cywion y gigfran yn golomennod hawddgar. John, brawd Pierce Williams, ebe Mr. Thomas Jones, oedd yn tebygu i Owen Ellis yn ei ddawn gweddi. Dechreuai Evan Jones Llys y gwynt, tad Mr. Thomas Jones, gyfrif ei oed o'r diwygiad yn 1859. Gofynnai am gael ei dderbyn fel bachgen 21 oed i'r cyfarfod gweddi bechgyn ieuainc fore Sul. Dilyn pob cyfarfod gweddi yn ddifeth ar ol hynny.
Rhai merched go neilltuol hefyd. Soniwyd am Malan Thomas o'r blaen. Martha Gruffydd, gwraig John Ellis, a feddai fwy o wybodaeth na'r cyffredin. Mam yn Israel. Gwraig synhwyrol a chrefyddol ydoedd Pegi Richard yr hen siop. Yr oedd Pegi Salmon, gwraig Evan Dafydd, a chwaer Griffith ac Owen Salmon; Pegi Jones, gwraig William Owen; ac Elin Williams Tŷ hen, i gyd yn wragedd a gair da iddynt gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun, ebe John Owen, yr hwn a gyfeiria atynt yn y dull byrr yma. Dyma sylwadau o eiddo Mr. R. O. Jones am ferched oedd yma o fewn ei gof ef ei hun: "Y fwyaf nodedig oedd Modlan, neu Magdalen Jones, priod Owen Jones y Siop, ac wedi hyny, Capten Pritchard. o Gaernarvon. Merch ydoedd hi i Robert Jones Rhoslan. Meddai brofiadau a theimladau crefyddol uchel, a byddai'n fynych mewn hwyl nefolaidd yn rhoi datganiad i'w chariad ar y Gwaredwr. Ymroddai i ddysgu a hyfforddi plant yr ardal yn y Beibl. Cynhaliai gyfarfodydd i holi'r plant yn hanes gwroniaid yr Hen Destament, weithiau yn ei thŷ neu dai cymdogion, neu yn yr awyr agored, weithiau yn y capel neu ysgoldy Penrallt. Byddai wrth ei bodd