Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/8

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Fe gyfleir ar ddiwedd ambell i adran yn yr hanes hwn gyfeiriad at fan mewn cylchgrawn neu bapur wythnosol, neu gofiant neu lyfr hanes. Weithiau y mae'r adran yn grynhöad o'r fan a grybwyllir; weithiau y mae rhyw gyffyrddiadau wedi eu dodi i mewn o ffynonellau eraill; weithiau fe geir y rhan fwyaf neu agos y cwbl wedi ei dynnu o'r ffynonellau eraill hynny, sef yn bennaf y rhai y cyfeirir atynt ar waelod y ddalen gyntaf yn hanes pob lle. Mi fyddwn rwymedig am fy nghyfeirio at hen gofiaduron da, fel y gallwn eu gweled neu ohebu â hwy. Ceir llawer o bethau gwerthfawr weithiau gan y cyfryw.

Croesawir unrhyw hysbysiad pellach am bersonau neu bethau y buwyd yn rhy fyrr gyda hwy, er mwyn eu dodi i mewn ar ddiwedd yr hanes. Byddaf ddiolchgar, hefyd, am gywiriadau mewn amseriadau neu bethau eraill. Ynglyn â'r amseriad noder sail y cywiriad.

Y mae'r lliaws ysgrifau y dyfynnir ohonynt yma wedi eu crynhoi a'u cwtogi fwy neu lai. Y mae rhai ysgrifau meithion wedi eu corffori yn y gyfrol hon; ond er gadael llawer allan, fe ddiogelwyd popeth y tybid ei fod o unrhyw werth neilltuol i amcan yr hanes hwn.

Trefnwyd drwy benderfyniad y Cyfarfod Misol ar fod yr hanes i ddibennu gyda diwedd y flwyddyn 1900. Rhaid peidio edrych yma, gan hynny, am grynhoad ar hanes neb a fu farw yn ddiweddarach na hynny. Ni olrheinir hanes neb, chwaith, ar ol symud ohono i Gyfarfod Misol arall, er marw ohono o fewn cyfnod yr hanes hwn, gan y gellir disgwyl i'w hanes ymddangos yn hanes y Cyfarfod Misol hwnnw.

W. HOBLEY.