siglen gorslyd yn agos i ben mynydd Carn Moesen, lle y mae colofn gref o ddwfr yn ymwthio allan o'r mynydd, digon i droi rhodau amryw felinau; a byddai yn berygl i ddyn fyned yn rhy agos at y ffynnonell, rhag iddo suddo o'r golwg i'r siglen. Rhed ychydig ddwfr i'r nant hon o ffynnon fechan sydd ar ben Craig-y-Llyn, yr hon sydd mor gywir ar ben y graig, fel y rhed peth o'r dwfr o honi tua'r gogledd a thros y dibyn i'r Llyn Mawr, a'r gweddill tua'r dê i Nant Rhyd y Cyllyll, yr hon yw'r fwyaf ddwyreiniol o benau Rhondda Fawr. Mae'r un fwyaf gorllewinol a'i rhediad o'r gorllewin i'r dwyrain ar du gogleddol mynydd Pen Pych, yr hon a rêd am tua hanner milldir fel dros risiau mawrion, ac yna hi naid dros graig serth tua 40 troedfedd i gyfarfod â'i chwiorydd. Mae un o'r golygfeydd rhyfeddaf yn y Sir ger y man y cydgyferfydd y gwahanol nentydd hyn yn Mlaen Rhondda. Mae'r creigiau yno wedi eu taflu bendramwnwgl ar draws eu gilydd, fel pe baent wedi eu taflu i fyny i'r awyr gan nerth daeargryn cryf, ac yna syrthio yn bentwr annhrefnus i bob ystum a ffurf. Ar ol uno o'r man nentydd a nodwyd, gan ffurfio y Rhondda, hi rêd am tua milldir gan lyfu troed mynydd Pen Pych, ac yna derbynia fwy o nerth trwy dderbyn Nant Cwm Selsig i'w mynwes o'r gorllewin. Mae dau raiadr pert iawn yn Nghwm Selsig, sef Berw Nant-y-gwau a Berw Gwion, yr hwn a elwir hefyd Berw Nant-yr-ychain. Yn Nhreherbert, croesir afon Rhondda gan bont haiarn a adeiladwyd yn 1865.
Pont haiarn gadarn gydia—a'u gilydd
Ddwy geulan y Rhondda;
Ac ar agen ddofn croga
Uwch y dwr yn wych a da.—D. M.
Tua milldir a hanner yn is, derbynia y Rhondda Nant Gorchwy yn Abergorchwy (Abergorki y Saeson), ac yna rhed heibio pentref ac Eglwys Ystrad-dyfodwg, Llwynypia, a'r Ddinas (Dinas y Glo), gan uno a'i chwaer yn y Cymmer. Ystyr y gair "Cymmer" yw uniad dwy afon o'r un enw. Cyn uno o'r ddwy afon, â y fwyaf dan Bont y Cymmer, yr hon sydd yn hollol o'r un arddull a'r pynt adeiladodd yr enwog W. Edwards, adeiladydd Pont-y-pridd, yr hyn sydd yn ein tueddu i gredu mai efe, neu Dafydd ei fab, adeiladodd hon.
Arch-adeilad goruwch dylif —y fyg
Rondda Fawr, a'i ffrydlif
Ydyw hon, a llon â'r llif
O tani'n hynod heinif.—D. M.
Yn 1870, adeiladwyd pont brydferth dau fwa dros y Rhondda, ychydig islaw uniad y ddwy. O'r bont hono hyd at Bont-y-pridd, rhed yr afon rhwng dau fynydd uchel a elwir Mynydd y Glyn a Tharen y Pistyll-a chyn i gelfyddyd ei niweidio-yr oedd yn ffurfio rhaiadr a elwid Berw Rhondda :
Rhediad gwyllt Rhondda ruadwy,—a'i chwymp
Chwyrn i'w Berw'n rhyferthwy;
Rua fal draig,—rhyfel drwy
Geudod y graig rwygadwy.
—Morgan Morganwg.