Cwm Ciwc Uchaf, Cwm Ciwc Canol, a Chwm Ciwc Isaf. Wedi uniad y ddwy nant, rhed yr afonig am tua milldir a hanner i'r dê, lle yr ymarllwysa i'r Ewenni, mewn lle a elwir Pont y Coc, neu Bont Ciwc, yr hon sydd tua chwarter milldir i'r gogledd o Eglwys Fair y Mynydd. Rhed Ewenni oddiyno i'r dê-orllewin am ddwy filldir a hanner, nes cyrhaedd pentref ac hen Abbatty Ewenni. Rhed drachefn am tua milldir yn yr un cyfeiriad cyn derbyn Nant Alam, neu y Groes Gwtta. Tardd hon yn ardal Llanfrynach, a rhed i gyfeiriad gorllewinol, heibio Llysyfronnydd ac hen Gastell ar Alam, a derbynia amryw fan nentydd ar ei thaith cyn aberu yn Ewenni, ychydig i'r dê-orllewin o Bont Ewenni. Tua thri chwarter milldir yn nes i'r môr, ymarllwysa Ewenni i'r Eogwy, ar ol dyfrhau rhanau helaeth o'r Fro. Mae'r afon hon yn hynod enwog am ei physgod, yn enwedig y Brithyll a'r Eog.
VI. AFON OGWY, NEU YR EOG-WY, (Salmon River), NEU OGMORE.—
Hen Eogwy gain ei hagwedd,—a dreigl
Drwy ddau gwm mewn gwylltedd:
Yna, arafa'n rhyfedd,—
A gan bwyll i eigion bedd.—D. M.
Tardd hon, fel yr awgryma'r englyn, mewn dwy ffynnonell, a rhed y ffrydiau am amryw filldiroedd yn wahanedig, y rhai a elwir yr Ogwy Fach a'r Ogwy Fawr. Tardd yr Ogwy Fach rhwng y Garn Fach a'r Garn Fawr, tua 1,700 troedfedd uwchlaw gwyneb y môr, a rhed oddiyno tua'r dê, heibio'r Gilfach Goch, ac yna rhydd dro i'r dê-orllewin, gan basio Llan Dyfodwg, neu Eglwys Glyn Ogwy; ac abera yn yr Ogwy Fawr ger y Felin Ddu ar ol derbyn Nant Cerdin yn Abercerdin, a Nant Iechyd yn Aberiechyd, &c. Tardd yr Ogwy Fawr yn Mlaen Ogwy, allan o Fynydd Craig Ogwy, yr hwn sydd 1,870 troedfedd o uchder. Rhed oddiyno am rai milldiroedd trwy gwm cul, garw, a gwyllt, gan dderbyn Nant Cwmfuwch ar y ffordd; a phasia ar du dwyreiniol i Langeinior, nes cyfarfod yr Ogwy Fach ger Melin Ifan Ddu. Oddiyno rhed am tua dwy filldir i'r de-orllewin hyd Abergarw, lle y derbynia afon Cwm Garw ar ei thu gogleddol. Mae afon Garw, neu Garw-wy, yn tarddu mewn dwy ffynnonell, ffrydiau y rhai a elwir yr Arw Fawr a'r Arw Fechan. Tardd y flaenaf yn Mlaen Garw, ger Bwlch Garw, o Fynydd Llangeinor, tua 1,760 troedfedd uwchlaw'r mor, a rhed yn chwyrn trwy gwm gwyllt a garw nes derbyn ei chwaer fechan i'w mynwes ychydig islaw Braich y Cymmer. Oddiyno rhed trwy gwm isel rhwng Mynydd Llangeinior a Mynydd Moelgiliau, gan basio Eglwys y Bettws, ac abera fel y nodwyd, yn afon Ogwy. Tua milldir i'r dê-orllewin o Abergarw Isaf, mae Aber Llyfnwy, lle yr ymarllwysa afon Llyfnwy i'r Ogwy. Mae Llyfn-wy wedi cael yr enw hwn mewn cyferbyniad i'r enw Garw-wy, am fod y naill o'r afonydd yn llyfn, a'r llall yn arw. Tardd y Llyfnwy yn Mlaen Llyfnwy, tua thair milldir i'r gogledd o'r Maesteg; a chyn anmhuro ei dwfr gan weithfeydd y lle hwnw, cyfetyb i'r desgrifiad canlynol:—