Disgyna'r dwfr yn y gwaelod ar ddarn o graig sydd wedi ei threulio gan yr "elfen deneu ysplenydd" i ffurf padell, yn 56 troedfedd o amgylchedd. Arferai Syr Herbert Mackworth, o Gastell y Gnol, dalu ymweliad aml â'r fan yma i fwynhau yr olygfa; a chan mai efe oedd perchen y lle, parodd wneyd llwybr trwy'r coed at y rhaiadr. Ar ei ymweliad olaf a'r fan, aeth pigyn draenen i'w law wrth droi cangen o'r ffordd; canlynwyd y pigiad gan dwymyn, a bu'r boneddwr farw o'r effeithiau. Islaw Sewd Einion Gam, ymarllwysa'r Pyrddin i'r Nedd Fechan, ac ychydig islaw hyny, disgyna'r afonig hono fel llen o sidan dros graig 45 troedfedd o uchder, gan ffurfio
SCWD GWLADUS.
Wele hudawl Scwd Gwladus—yn rhoi spongc
Dros ben craig ramantus;
I wneyd prangc, rhydd naid heb rus,
Yn hyf, yn bert, a nwyfus.—D. M.
Yr oedd Maen Chwyf tua 15 tunnell o bwysau yn ymyl y rhaiadr hwn, a gallesid siglo'r gareg ag un bys; ond yn 1851, darfu i'r Gwyddelod a weithient i wneyd Cledrffordd Cwm Nedd fyned ar fore Sul, a throsolion haiarn ganddynt, a symmud y gareg o'i lle, gan feddwl cael trysor dani, ac felly dinystrwyd ei gogoniant. Mae ar y Felltwy dri rhaiadr, y rhai a elwir Glyn-gwyn Uchaf, Canol, ac Isaf. Pan yw'r afonig hon yn ymdreiglo dros ei phalmant garw, ymddengys ei dyfroedd fel llaeth berwedig; ac mewn un man, disgyna dros graig 70 troedfedd o uchder, gan raiadru yn drystfawr.
Afon Melltwy, ddofn, ymwylltawg,—a draidd
Rhwng dwy drum serth gribawg
A magwyrydd amgaerawg,
Yn boer gwyn, idd ei berw gawg.
Bwrlyma, lleibia y llif—ochr y graig
Chwerw grych taranllif;
Ei ffrau raiadrau di rif,
A'i swn deil fel sain dylif.
—Nathan Dyfed.
Mae afon Melltwy yn myned am gryn ffordd trwy ogof hefyd, a elwir Y Porth Mawr. Mae geneu yr ogof yn 43 troedfedd o uchder, a 19 o led, ond yn lleihau wrth fyned tuag i mewn. O'r ogof hon, y mae dau dwll i'r arwyneb trwy y graig galch, a thrwy y tyllau hyn gellir clywed yr afon yn llyfu ochrau'r creigiau ar ei thaith danddaiarol.
Y PORTH MAWR.
Dros y cwm cul dorus cau—wele bont
Ddeil byth ar ei seiliau;
Nis rhaid ofn i'w cholofnau
Na'i meini hen ymwanhau.
Dan y drum geill dyn dramwy—hyd a lled
Y llwybr calch-bibonwy,
A'i fynediad ofnadwy
Na'i bwy mawr sydd yn bum mwy.
—Nathan Dyfed.