II. RHANIADAU SWYDDOGOL NEU AWDURDODEDIG Y SIR.
Rhenid Gwent gynt yn bump arglwyddiaeth, fel y canlyn:—1. Gwent Uwchcoed; 2. Gwent Iscoed; y rhai sydd yn Mynwy yn awr. 8. Gwentllwg, neu Gwaenllwg, sef Gwent Gorslyd, yn cynnwys y parth a elwir plwyf Gelligaer yn bresenol, gyda rhanau gorllewinol sir Fynwy. 4. Blaenau Gwent, sef holl fynydd-dir parthau gogleddol Mynwy a Morganwg yn bresenol. 5. Gorwennydd, neu Gor Went, sef y wlad rhwng afon Taf ac afon Nedd. Rhenid Gorwennydd hefyd yn ddwy ran, sef Uchaf ac Isaf; ac afon Ewenni yn eu gwahanu. Llygriad o Gorwennydd yw Gronedd y rhaniad Eglwysig. Mae lle yn awr yn mhlwyf Llandyfodwg, o'r enw Penllwyn Gwent; hyny yw, Prif Blanigfa Gwent; ac ystyrid y fan hon gynt yn Gorwennydd Uchaf. Mae plwyf Llysyfronnydd yn y parth a elwid Gorwennydd Isaf; a barnai D. Williams, awdwr "The History of Monmouthshire," mai llygriad yw'r enw o Lys Gorwennydd; ond pe buasai yr awdwr hwnw yn ystyried mai sant o'r enw Nudd a sylfaenodd Eglwys y plwyf hwnw, barnwyf y cydunasai mai Llys Bro Nudd yw'r enw iawn.
Gelwid parthau gorllewinol y Sir hon wrth yr enwau Gwyr a Bro Gwyr, fel y sylwyd yn barod. Ymddengys bod yr enwau, a'r rhaniadau hyn wedi ei gwneyd, cyn tiriad y Rhufeiniaid i'n gwlad. Ond wedi iddynt hwy gymmeryd meddiant o honi, darfu i'r Ymherawdwr Severus yn y flwyddyn 207 o.c., ranu Ynys Prydain yn ddosparthiadau; a'r enw a roddwyd ganddo ar Gymru oedd Britannia Secunda; a'r parth sydd yn cynnwys siroedd Morganwg, Mynwy, Brycheiniog, Maesyfed, Caerloyw, Henffordd, a rhanau o sir Gaerwrangon (Worcestershire), a enwyd ganddo yn Siluria, oddiwrth Essyllwg y Cymry.
Y rhaniad swyddogol nesaf ar Gymru ag y mae genym hanes am dano, a wnaed tua'r flwyddyn 877 o.c. gan Rodri Mawr, mab Merfyn Frych, yr hwn a'i rhanodd yn dair Talaeth, sef Gwynedd, Powys, a Deheubarth; ac a'u rhoddodd i'w dri mab, Anarawd, Merfyn, a Chadell. Yr oedd Morganwg hyd y nod y pryd hwnw, yn Dalaeth Annibynol, yn cael ei llywodraethu gan dywysog annibynol, ac wedi ei rhanu yn bedwar Cantref a phymtheg Cwmmwd, fel y canlyn:
I. CANTREF NEDD. | II. CANTREF PENUCHEN. | III CANTREF BREINIOL | IV. CANTREF GWENTLLWG. |
---|---|---|---|
Cymmydau. 1. Rhwng Nedd a Thawy |
Cymmydau. 1. Meisgun 2. Glyn Rhondda 3. Talyfan 4. Maenor Rhuthyn |
Cymmydau. 1. Cibwrn 2. Senghenydd 3. Uwch Caeach 4. Is Caeach |
Cymmydau. 1. Yr Ardd Ganol 2. Eithaf Dylogion 3. Yr Haith 4. Y Mynydd |
Ychwanegwyd Cwmmwd y Mynydd at y pumtheg ereill, er mwyn cael pedwar Cwmmwd yn mhob Cantref.
Yn 945 o.c., gwnaed Rhaniad Awdurdodedig arall ar Gymru trwy orchymmyn y brenin Hywel Dda, yr hwn, medd haneswyr, a'i rhanodd yn siroedd, yr un fath ag y rhanodd Alfred Fawr deyrnas Lloegr.
Dywedir yn "Y Cwtta Cyfarwydd," a ysgrifenwyd gan Meurig, Trysorydd Llandaf, fod Morganwg yn amser y rhaniad hwnw yn Dalaeth Annibynol, ac ynddi saith Cantref, sef,-1. Cantref Bychan; 2. Can-