Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGARWEINIAD

YN yr hen amser gynt rhennid siroedd Cymru yn gantrefi a chymydau. Deg tref a deugain oedd i bob cwmwd, a chyfansoddai dau gwmwd un cantref. Nid ydym i gymeryd tref yr hen Gymru fel enw cyfystyr a thref yn yr oes hon. Mae'n debyg nad oedd tref gynt ond etifeddiaeth. Yn y Beibl y mae etifeddiaeth yn myned o dan yr enw treftadaeth. Cynhwysai tref yn ol yr hen gyfrif bum gafael neu 256 erw. Felly gellir casglu nad oedd tref Gymreig yn ddim amgen na threftadaeth neu etifeddiaeth fechan yn perthyn i un teulu. O'r gair tref yn yr ystyr yma y daw cartref yn ei ystyr cyffredin. Y mae llawer o'r hen drefi neu'r etifeddiaethau Cymreig wedi gadael eu henwau ar ffermydd a thyddynod er gwaethaf yr holl gyfnewidiadau sydd wedi cymeryd lle trwy y goresgyniad Seisnig, y prynu a'r gwerthu, a lledaeniad yr iaith Saesneg. Er engraifft, gellir nodi Tre Aseth, neu Joseth, Tre Ferwydd, Treanna, Tre Ifan, Tre'r Dryw, Tre'r Beirdd, &c. Gellid ychwanegu ugeiniau o enwau cyffelyb ar gael yn Sir Fon yn unig. Ac fel yr oedd tref yn gysylltiol ag enw etifeddiaeth neu ddaliadaeth, felly hefyd yr oedd Bod yn flaenddawd i enw yr anedddy, megis Bodiorwerth, Bodridau, Bodlew, Bodowen, Bodorgan, a llawer o blâsau a ffermdai eraill yn y Sir.

Rhennid Sir Fon i dair cantref, sef Aberffraw, Cemaes, a Rhos Fair, sef Niwbwrch. Cynhwysai cantref Aber-