Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac yr ymsefydlent hefyd. Ychydig o son mewn cymhariaeth sydd am ymosodiadau o'r de-orllewin ; ond pan y digwyddai i ymosodwyr lanio yn Abermenai yr oedd amddiffyniad yr ynyswyr yn fwy llwyddiannus yno nag ynghyrrau eraill o'r ynys. Bu tywysogion Gwynedd yn anffortunus lawer tro, ond ymha gyflwr bynnag y byddent yr oedd y Monwysiaid bob amser yn deyrngarol.

Nid ydwyf am ddweyd fod tywysogion Gwynedd wedi sefydlu eu prif Lys yn Aberffraw am ei fod yn lle mwy diogel na rhyw le arall, ac felly ensynio eu bod yn rhy ofnus i ymsefydlu ym Meaumaris; ond hyn a ddywedaf, yr oedd y lle blaenaf yn fwy manteisiol o lawer fel sefyllfa i gadw Sir Fon mewn cymundeb a Siroedd Caernarfon a Meirionydd y rhai (ynghyd a Sir Fôn) a wnaent i fyny Dywysogaeth Gwynedd, tua mil o flynyddoedd yn ol.

Beaumaris oedd y lle mwyaf hwylus i'r brenhinoedd Seisnig ar ol goresgyniad Cymru, oblegid Ffordd Caer trwy siroedd Fflint a Dinbych i Deganwy a Beaumaris oedd ac ydyw prif-ffordd y Saeson i Fon. Ond pan oedd Meirionydd, Eifion, Lleyn, Arfon, a Môn yn cyfansoddi Gwynedd yr oedd prif-ffordd y tywysogion Cymreig yn rhedeg drwy Harlech a Chriccieth i Abermenai, ac yna wrth gwrs i Aberffraw. Os felly, yr oedd yn rhaid fod Niwbwrch, a saif yn y bwlch mwyaf cyfleus drwy y Gefnen Hir, yn lle i aros ar y ffordd i'r prif Lys yn Aberffraw.

Wrth ddarllen hanes Gruffydd ap Cynan ceir gweled fel y darfu i'r tywysog hwnnw fwy nag unwaith, pan yr ymdrechai adennill tywysogaeth Gwynedd, gymeryd Abermenai yn fan cynnull i'w lynges. Gan mai o'r Werddon y byddai bob tro yn cychwyn, yng Nghaergybi y buasai yn glanio pe buasai'r amgylchiadau y pryd hwnnw yn gyffelyb i'r hyn ydynt yn awr; ond yn Abermenai y tiriai yn wastad, a hynny am y rheswm y gallai gwyr o bob rhan o Wynedd gymeryd y brifffordd tuag yno.