Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Niwbwrch gostrel dagrau, bron ymhob tŷ, oblegid ni cheir llawer o lwyddiant, mwy na buddugoliaeth ar ol brwydr, heb lawer iawn o aberth. Oh, y taliad mor ddrud a dalodd yr hen dref am y dyrchafiad cymdeithasol a ddaeth i'w rhan o'r diwedd! Tynnodd Neifion Gawr i'w fynwes oer lawer tad, mab, a brawd; ac achosodd i afonydd o ddagrau heilltion i redeg o ffynhonnau serch gweddwon, amddifaid, a pherthynasau galarus.

13. ACHOSION Y DYRCHAFIAD CYMDEITHASOL

Yr wyf yn pwysleisio achosion y dyrchafiad, oblegid nid un achos yn gyffredin sy'n dwyn oddiamgylch effaith fawr barhäol.

Y mae esiamplau o amryw o achosion gwahanol, (ac heb un berthynas weledig neu ddealladwy rhyngddynt ar y cyntaf) yn ymgysylltu rywfodd yn ddistaw ac heb yn wybod i ddyn; fel y gelwir y peth, ar ol iddo dynnu sylw, yn un o droion Rhagluniaeth.

Yn nechreu y ganrif bresennol pan oedd Niwbwrch unwaith yn ychwaneg wedi gweled y trai yn ei fan isaf, a thraethellau aflwyddiant yn sychion a digyn-yrch, ymddangosodd cydgyfarfyddiad amryw achosion y rhai gyda 'u gilydd a ymffurfiasant yn un achos i adfywiad anghyffredin, yr hyn a gynhyrfodd y cwch gwenyn yn Niwbwrch, ac a achosodd i heidiau ymgodi i chwilio am fêl cynhaliaeth mewn lleoedd amgen na phonciau tywod y Tywyn a meusydd anrheithiedig yr Hendref.

Dylwn egluro yr hyn a alwaf yma yn ddyrchafiad. Y mae dyrchafiad crefyddol, ac y mae hefyd ddyrchafiad moesol; ond yr wyf fi yma yn cyfeirio yn fwy neilltuol at ddyrchafiad cymdeithasol. Mae'n wir mai crefydd sy'n dyrchafu safon moesoldeb, ac mae'n wir hefyd mai crefydd a moesoldeb sydd mewn gwirionedd yn dyrchafu; ond y mae achosion eraill yn cydweithredu â chrefydd a moesoldeb yn y dyrchafiad a elwir yn gymdeithasol.