Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Plwyf Ffestiniog.djvu/6

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tra yn ymdeimlo fod llawer iawn o ddiffygion yn y Traeth- awd, nid arbedais drafferth na llafur i'w wneyd mor gyflawn ag y gallwn yn yr amser oedd genyf at fy ngwasanaeth, a hyderaf y caiff y darllenydd ynddo ryw gymaint o ffeithiau ydynt o ddyddordeb yn nghylch Plwyf Ffestiniog, nas cyhoeddwyd yn flaenorol.

BOARD SCHOOL,
GLANYPWLL,
Chwefror 17eg, 1882.

Y FEIRNIADAETH.

"Wrth ddarllen y Cyfansoddiad hwn, nis gallwn lai nag edmygu y llafur dyfal a gymerodd yr Awdwr i chwilio am, a chrynhoi, y defnyddiau a'i cyfansoddant, a'r medr â pha un eu cyflëodd yn ei Draethawd. Y mae ci ddysgrifiad o'r “Olion Henafiaethol” ydynt yn wasgaredig dros wyneb y plwyf, a'i grynhoado “Lên Gwerin,” neu draddodiadau llëol y gymydogaeth yn ddyddorawl i'r Henafiaethydd ; ac y mae y Casgliad o Achau hen foneddion yr ardal, yn ychwanegu yn fawr at ei werth.

Efallai nad oes ardal yn Ngwynedd ag y mae mwy o gyfnewidiadau a gwelliannau wedi cymeryd lle ynddi o fewn yr haner canrif diweddaf, nag ydyw Blaenau Ffestiniog, yr hyn a achoswyd trwy agoriad y lluaws lech-gloddfëydd gwerthfawr yn ei ystlysau ; o'r hyn y rhydd yr Awdwr llafurus eglurhad yn ei ystadegau manol. Addurnir y Gwaith â bro-ddarluniau celfydd, y rhai a ychwanegant at ei deilyngdod.

Yr ydwyf yn barnu yn gydwybodol, fod Awdwr y Traethawd hwn yn gwir deilyngu y wobr ; a dymunaf lon-gyfarch y boneddigion a gynygiasant y wobr, ar eu llwyddiant i dynu allan gyfansoddiad mor alluog, ac ni phetrusaf ddywedyd, os penderfyna y Pwyllgor ei argraffu, y gall Ffestiniog ymffrostio mewn "Bro-ddarluniad" rhagorach nag un plwyf arall yn y Dywysogaeth.

Ar air a chydwybod,
OWEN JONES.