Clettwr Fawr, yr hon yw y ffin hyd at derfyniad y plwyf yn Narren Fach. Ochr pentre Llandyssul yw Is-Cerdin, a'r un wrthwynebol yw Uwch-Cerdin.
Y mae y plwyf yn Neoniaeth Wladol Is-Aeron ac Archddiaconiaeth Aberteifi. Y mae y fywioliaeth yn ddyblyg, sef Ficeriaeth unedig a Chapeloniaeth Capel Dewi, ac yn Berigloriaeth ychwanegol yn Esgobaeth Tyddewi. Y mae y berigloriaeth wedi ei chysylltu a phenaeth Coleg yr Iesu, Rhydychen. Yn ol Geiriadur Lewis, trethwyd y berigloriaeth yn llyfrau y Brenhin yn £12 16s. Sc., a'r ficeriaeth wedi ei ryddhau yn £10, yr hon waddolwyd a rhodd Seneddol o £2,000, ac yn hawddogaeth Esgob Tyddewi. Derbynia y Periglor-swydd segurwr-oddiwrth y degwm £794. Rhoddir £71 gan Bounty y Frenhines Anne, a £183 gan y Dirprwywyr Eglwysig. Yn 1720, cyfanswm cyllidol y ficeriaeth oedd £25. Yn 1849, yr oedd oddeutu £150 y flwyddyn. Tuag at gynyddu ei gwerth, cyfranodd y diweddar Barch. Charles Williams, D.D., Rheithor y plwyf, ddwywaith y swm o £500, yr hyn, yn nghyd a symiau cyfartal oddiwrth Esgob Thirlwall a'r Dirprwywyr Eglwysig, a'i gwnaeth yn £277, neu yn rhydd o dreuliau £270 a'r tŷ.
Y mae 17,556 o erwau o dir yn y plwyf, arwynebedd y cyfryw sydd fel rheol yn fynyddig. Y mae rhai o'r bryniau yn dra uchel. Dyma'r prif rai:
1.-Pencoedfoel, uchder uwchlaw gwastadedd y môr yn Lerpwl, 830 troedfedd.
2.-Penmoelymor, 922 troedfedd.
3.-Penmoelhedog, 1,028 troedfedd.
4.-Carn uchlaw Glandwr, ochr Llandyssul i'r ffordd fawr, 1,020 troedfedd.
5.—Henbant-uchaf, 846 troedfedd.
6.-Pwynt uchaf rhwng Horeb a Bwlchygroes, gyferbyn ag allt Cwmhyar, 872-3 troedfedd.
7.-Pwynt uchaf rhwng Beiligwyn a Caerau, 870 troedfedd.
8.--Rhwng Pantstrimon a Gwarcoed-uchaf, ar dir yr olaf, 830 troedfedd.
9.-Rhwng y Waun a Phyllau'r Bryn, gyferbyn a hen Bwll y Tywod, 878 troedfedd.