plwyf. Trwy garedigrwydd Mr. Alcwyn Evans, cawsom ganiattad i ddefnyddio ei sylwadau ef, ac ychwanegwn ninnau rai eraill attynt.
MYNACHDY TALYLLYCHAU.
Y mae Dugdale yn ei "Monasticon Anglicanum," yn gosod y Mynachdŷ hwn ymhlith y rhai Benedictaidd, tra y mae Leland yn ei "Collectanea" a Speed yn dweyd mai Premonstratentiaidd[1] ydoedd. Cyttuna Tanner a'r ddau olaf, a dywed fod darostyngiad Tal-y-llychau i Welbeck yn ffafriol i'r syniad hwn. Safai y Mynachdŷ ar ysmotyn prydferth, 8 milldir i'r gogledd o Landeilo-fawr. Dywed Tanner iddo gael ei sefydlu gan Rhys, mab Griffith, Tywysog Deheudir Cymru a fu farw yn y flwyddyn 1197, tra y dywed Leland mai Rhys, mab Tewdwr, a'i sefydlodd. Os felly, gan i'r olaf farw yn 1090 ni allai y mynachdy fod yn wreiddiol o'r hyn leiaf yn Premonstratentiaidd. Beth bynag, yr oedd wedi ei sefydlu cyn 1214 pan wnaed Gervase, Abad y lle, yn Esgob Tyddewi. Yn Siartr Edward III, dywedir mai Rhys Mawr neu Arglwydd Rhys roddodd dir gyntaf i'r Mynachdy. Cafodd ei gyflwyno i'r Santes Mair a Sant Ioan y Bedyddiwr, er fod Santes Mair a Sant Augustine yn cael eu henwi fel Seintiau Noddawl mewn rhan arall o'r Siartr. Enwau yr Abadau ar ol Gervase oeddynt Griffin yn 1239; William yn 1397 a 1399; Morgan, yr hwn a ddilynodd yn 1426; David yn 1430; Lewis yn 1435; a David, Gorph. 8fed, 1504. Dywed Tanner oddiwrth ysgrif yn Llyfrgell Coleg Bennet fod wyth o Ganoniaid yn Nhalyllychau pan ei diddymwyd. Ni a nodwn yn awr y cyssylltiad fu rhwng Llandyssul a'r Mynachdy. Yn llyfr Dugdale, cyfrol IV, tudalen 166, cawn oddiwrth gyfrif Gweinidogion yr Arglwydd Frenhin yn amser Harri yr Wythfed, fod £6 16s. 6c. yn myned oddiwrth "Grangea," a'r un swm oddiwrth "Commortha," y Faerdref i'r Mynachdŷ.
- ↑ Oddiwrth y gair Premonstre', Lladin Premonstratum yn Picardy. Urdd ddiwygiedig o Ganoniaid oedd y Premonstratentiaid, yn gwisgo arwisg wen, tra y gwisgai yr Augustiniaid wisg ddu. Gwyn hefyd oedd gwisg y Cisterciaid yn Hen-dy-gwyn-ar-Daf (Whitland).