Ffynon; yna ar hyd y Ffynon hon o'i harllwysiad i'w tharddiad; ac oddiyno tuag at y ffordd sydd nesaf i'r "tarddiad dywededig; ac yn groes i'r heol at y cerrig mawrion a orweddant yn y cae; o'r cerrig mawrion hyn 'yn groes i Gaer Hyfeidd; ac o Gaer Hyfeidd i Warderwen;[1] ac oddiyno i'r ffrwd; gan ddisgyn gyda'r ffrwd i'r ddôl yn y dyffryn; ac oddiyno i Deifi; a chan fod cyffiniau y Teifi yn dra adnabyddus i Abercerdin, lle y dechreuodd y ffin gyntaf. Hefyd, tir Moelhedog a gwmpasir gan y terfynau hyn:—O Islwyn[2] i'r Cribin;[3] yna i'r Garn;[4] yna drwy ffos yn arwain i'r Crug;[5] o'r Crug i Garn ar y Bryn;[6] oddiyno i Garn arall[7] ger Moel Hedog; yna i'r Garreg wen[8] a saif yn y dyffryn; oddiyno i darddiad Nant Cathal;[9] oddiyno i'r dyffryn a arweinia i Garn;[10]<Tarddiad Camnant, (gwel tud. 3), pennod Daearyddiaeth. welir fod tir Moelhedog yn helaeth iawn yn amser y Siartr. Yn y 18fed ganrif cynnwysai y llefydd eanlynol—Blaen Cathal, Moelhedog Ucha, Moelhedog Isa, Pengelli, Penrhiw, Camnant Fach, Gelliaur a Heol Feinog.</ref> ar hyd y nant hon i Afon Clettwr; ac o "Glettwr i Islwyn."
DWY HEN EWYLLYS.
Trwy garedigrwydd Alewyn C. Evans, Ysw., Caerfyrddin, galluogir ni i roddi yma ddwy hen ewyllys :—(1.) "Will, made (no date); Proved, 22nd March, 1596. "DAVID JENKIN AP EIGNON, of Llandyssul, Testator. I
- ↑ Methasom leoli Pwll y Blaidd, Gaer Hyfeidd, a War—derwen.
- ↑ Islwyn [Hescluyn]. Ai nid Glaslwyn yn Nghlettwr Fawr yw hwn? Ceir Gwar—y—llwyn uwch i fyny yn Gwarllwynoidos.
- ↑ Cribin.—Nid oes un lle o'r enw Cribin yn yr ardal. Ai Cribor ydyw? Y mae y llam o Laslwyn i Gribin Clottais yn rhy fawr, oherwydd llamau bychain gawn yn adranau eraill y Siartr.
- ↑ Garu.—Lled debyg y Garn uwchlaw Glandwr.
- ↑ Crug.—Crugymaen yn Llanwenog.
- ↑ Garn-ar-y-Bryn.—Carn ar Fryn'r Eglwys.
- ↑ Garreg wen.—Saif Carreg Wen 'ar dir Efail Fach, gyferbyn a thy Capel Newydd, Llwynrhydowen. Credaf nad hon feddylir oherwydd byddai'r llam yn ormodol ac yn rhy wyrdraws.
- ↑ Garreg wen.—Saif Carreg Wen 'ar dir Efail Fach, gyferbyn a thy Capel Newydd, Llwynrhydowen. Credaf nad hon feddylir oherwydd byddai'r llam yn ormodol ac yn rhy wyrdraws.
- ↑ Tarddiad Nant Cathal.—Blaencathal tua milldir o Ben Moelhedog.
- ↑ Garn.—Carn Camnant.